Cyn-Aelodau o’r Senedd yn ymuno â chomisiwn i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Mae aelodau pwyllgor newydd fydd yn edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi eu henwi.
Fe fydd y Comisiwn Cyfansoddiadol yn archwilio posibiliadau cyfansoddiadol sy’n cynnwys annibyniaeth i Gymru a rôl Cymru o fewn y Deyrnas Unedig.
Bydd hefyd yn archwilio newidiadau posib i’r system ddemocrataidd yng Nghymru.
Bydd yr aelodau yn cynnwys dau gyn-Aelod o’r Senedd a chyn-Aelod Seneddol yn San Steffan.
Fe fydd Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, a Kirsty Williams, cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, a’r cyn-AS Llafur Albert Owen ymhlith y sawl fydd yn ymuno.
Bydd yr ymchwilydd gwleidyddol Dr Anwen Elias, y cyn-newyddiadurwr Miguela Gonzalez a’r arbenigwr iechyd cyhoeddus Michael Marmot hefyd yn rhan o’r comisiwn.
Yn ymuno â nhw, bydd Lauren McEvatt oedd yn ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth y DU, y cyn-was sifil Philip Rycroft, a Shavanah Taj sef Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf y TUC i fod o gefndir Du a Lleiafrifoedd Ethnig.
'Creadigol a radical'
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: "Mae pob comisiynydd yn cynnig cryfderau, gwybodaeth, profiad a safbwyntiau gwahanol. Maen nhw’n dod o bob cwr o Gymru, y DU, a thu hwnt ac o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol.
“Gyda’i gilydd, mae’r comisiynwyr yn cyfuno’r manylder academaidd a’r safbwyntiau amgen y bydd ar y comisiwn eu hangen i feddwl yn greadigol a radical am ddyfodol Cymru.”
Mae’r naw yn ymuno â’r cyd-gadeiryddion sydd eisoes wedi eu cyhoeddi – Yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams.
Lluniau: Democratiaid Rhyddfrydol / Plaid Cymru