
Yr Urdd yn gostwng pris aelodaeth i bobl ifanc llai breintiedig
Fe fydd pris aelodaeth ar gyfer Yr Urdd yn cael ei ostwng i blant a phobl ifanc o gefndiroedd llai breintiedig medd y mudiad.
Y gost arferol i ymaelodi yw £10, ond, mae’r Urdd wedi gostwng y pris i blant sy’n derbyn prydau cinio ysgol am ddim i £1.
Mae un o bob pump disgybl yng Nghymru yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim.
Yn ôl Prif Weithredwr y mudiad, Sian Lewis, mae'r mudiad eisiau "sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy’r Urdd.”
Dywedodd: “Roedd ystadegau yn dangos bod tlodi plant yng Nghymru ar gynnydd cyn y pandemig, ond mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lesiant a gweithgarwch corfforol plant, yn enwedig rheiny o deuluoedd incwm isel.
“Fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol rydym yn gyson chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle,” ychwanegodd.
"Mae cynnig cefnogaeth i’n cyd-ddyn yn greiddiol i’n gwaith, ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu effaith y pandemig ar ein hieuenctid ynghyd â’u teuluoedd.”

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland ei bod hi, yn ogystal ag ysgolion ar hyd Cymru yn croesawu’r cynllun.
Dywedodd: “Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd i filoedd o blant a phobl ifanc yng Nghymru i fwynhau eu hawliau i gymdeithasu, i ymlacio, i chwarae, ac i ddatblygu eu diddordebau a thalentau.
“Mae ymrwymiad yr Urdd i gefnogi plant o bob cefndir i fwynhau’r hawliau yma yn glir yn eu gwaith.
“Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ymrwymiad yma wedi cynnwys cynlluniau sbesiffig i blant sydd mewn cyswllt gyda gwasanaethau cymdeithasol, a chefnogaeth arbennig i ffoaduriaid."

Mae’r Urdd eisoes wedi cyhoeddi cynllun er mwyn galluogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd llai breintiedig i fynd ar wyliau i Wersyll Haf yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd.
Bydd y gronfa hon yn ailagor ar gyfer ceisiadau gan rieni neu ysgolion ar ran plentyn yn Ionawr 2022.
Lluniau: Urdd Gobaith Cymru