Yr Uneb Ewropeaidd yn cytuno ar sancsiynau newydd yn erbyn Belarws

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno ar sancsiynau newydd yn erbyn Belarws dros argyfwng ar y ffin rhwng Belarws a Gwlad Pwyl.
Mae diplomyddion yn amcangyfrif bod rhwng 10,000 ac 20,000 o fudwyr yn wynebu amodau anodd yn ardal y ffin wrth i'r tymheredd ostwng.
Dywed yr UE fod yr argyfwng yn un sydd wedi ei greu gan Belarws, gan honni fod llywodraeth y wlad yn cynorthwyo mudwyr sydd yn gobeithio teithio i orllewin Ewrop i gyrraedd y ffin gyda Gwlad Pwyl.
Yn ôl The Guardian, bydd y sancsiynau newydd yn cynnwys rhewi asedau a gwaharddiadau teithio ar unigolion.
Bydd rhestr o bobl a’r cyrff fydd yn cael ei heffeithio gan y sancsiynau yn cael ei ryddhau wythnos nesaf.
Ond dywedodd Josep Borrell, pennaeth polisi tramor yr Undeb Ewropeaidd y bydd yn cynnwys “pobl, cwmnïau hedfan, asiantaethau teithio a phawb sy’n ymwneud â’r gwthio anghyfreithlon hwn o ymfudwyr yn erbyn ein ffiniau.”
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: @murad_ismael/Twiter