Carcharu menyw am ladd babi chwe mis oed drwy yfed a gyrru

Mae menyw wedi ei charcharu ar ôl achosi marwolaeth babi chwe mis oed drwy yfed a gyrru.
Cafodd Lucy Dyer, 23, o Deras Heulwen, Llanelli ei charcharu am bedair blynedd.
Plediodd Dyer yn euog yn Llys y Goron Abertawe i ladd Eva Maria Nichifor yn y gwrthdrawiad am tua 21:00 ar 8 Hydref.
Cafodd Eva ei disgrifio gan ei rhieni fel "rhodd gan Dduw", yn ôl Wales Online.
Darllenwch y stori'n llawn yma.