Newyddion S4C

Gobaith am hwb economaidd i'r canolbarth wrth adfywio hen gamlas

Newyddion S4C 15/11/2021
S4C

Mae Cyngor Powys yn gobeithio y bydd ailagor rhan newydd o Gamlas Trefaldwyn yn rhoi hwb i economi'r canolbarth, gan greu swyddi a chynyddu nifer yr ymwelwyr i'r ardal.

Mae £15.4m o gyllideb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu rhannau o'r gamlas.  

Dywedodd Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym wrth ein bodd bod ein cais i Gronfa'r DU i adfywio rhan segur o'r gamlas, gan ei chysylltu ag adran ohoni y mae modd ei mordwyo a'r rhwydwaith cenedlaethol wedi bod yn un llwyddiannus.

“Bydd adfer ac adfywio'r gamlas yn raddol yn golygu bod y ddyfrffordd yn dod yn atyniad ymwelwyr blaenllaw, gan ddarparu manteision economaidd, diwylliannol a hamdden hirdymor i gymunedau lleol."

Y nod yw cynyddu'r defnydd o'r gamlas o'r ffigwr cyfredol o 500 cwch y flwyddyn gan obeithio y bydd caiacau, canŵod a phadlfyrddau hefyd yn gallu defnyddio'r ddyfrffordd.

'Diddordeb ecolegol'

Bydd yr arian yn helpu i ailagor rhan fwyaf o lwybr 4.4 milltir o hyd o’r gamlas o bentref Llanymynech, ar y ffin â Lloegr, i Arddlîn ger y Trallwng.

Mae llwybr wrth ochr y gamlas ar agor ac yn boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr, ond ni all cychod ddefnyddio'r rhan hon o'r gamlas oherwydd bod rhannau wedi gordyfu â phlanhigion dŵr.

Er mwyn ailgysylltu'r darnau sydd wedi'u gwahanu, bydd dwy bont ffordd newydd yn cael eu hadeiladu ger pentref Carreghwfa, pontydd Williams a Walls.

Image
Camlas Trefaldwyn

Dywedodd Michael Limbrey, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffordd Trefaldwyn, y bydd y cyllid newydd yn cael ei wario ar dair agwedd o’r prosiect.

“Yn gyntaf, y ddwy bont, yna mae angen gwella sianel y gamlas lle mae wedi cael ei hesgeuluso ers hanner canrif neu fwy. A'r trydydd peth yw creu gwarchodfeydd natur wrth ochr y gamlas, oherwydd mae'r diddordeb ecolegol yn y gamlas yn bwysig iawn.”

Yn ôl Glandŵr Cymru, ymddiriedolaeth y camlesi ac afonydd mae Camlas Trefaldwyn yn “un o’r pwysicaf yn y wlad o ran natur”.

Mae llawer o'r gamlas o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'r rhan yng Nghymru o bwysigrwydd rhyngwladol, wedi'i dynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei phlanhigion dwr.

Bydd hefyd gwarchodfeydd natur newydd yn cael eu creu ger y Trallwng i ddarparu cynefin i'r fflora a'r ffawna sy'n byw yn y gamlas ar hyn o bryd.

'Debyg iawn i chwynnu'ch gardd'

Cafodd Camlas Trefaldwyn ei hadeiladu dros 200 mlynedd yn ôl at ddibenion amaethyddol, yn hytrach na diwydiannol.

Yn ôl yr hanesydd Dewi Hughes, roedd y gamlas yn cael ei ddefnyddio i gludo glo, pren a chalch i ffermydd yng nghanolbarth Cymru a ddefnyddiwyd i wella ansawdd y tir. 

Ers diwedd y 1960au mae rhannau o'r gamlas wedi cael eu hadfer a heddiw mae modd teithio mewn cwch ar bron i 21 milltir o'r - tua 13 milltir ar ochr Cymru o'r ffin ac wyth yn Lloegr.

Mae angen gofal a chynnal a chadw parhaus ar yr adrannau sydd wedi’u hadfer a phob wythnos mae grŵp o wirfoddolwyr yn cwrdd i wneud unrhyw waith angenrheidiol. 

Image
S4C
Mae Alan Roberts wedi bod yn gwirfoddoli ers 2016.

Mae Alan Roberts sy’n byw ger y Trallwng wedi bod yn gwirfoddoli ers iddo ymddeol yn 2016.

“Ry’n ni’n torri unrhyw beth sy’n hongian drosodd i’r dŵr neu’n gordyfu.

"Y peth am y gamlas yw unwaith y byddwch chi'n ei hadfer, mae'n rhaid i chi ei chynnal ac mae pethau'n tyfu yn gyflym iawn. Felly ry’n ni'n torri canghennau, yn llusgo boncyffion o'r gamlas. Mae'n lot o hwyl, weithiau byddwn ni yn chwynnu hefyd. Mae'n debyg iawn i chwynnu'ch gardd. 

Mae’n rhaid i’r gwirfoddolwyr gael caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru cyn torri unrhyw blanhigyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.