Newyddion S4C

Rhybudd am beryglon coginio ar ôl achub tri o dân ger Llangollen

15/11/2021
S4C

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rhybuddio am ddiogelwch coginio wedi tân mewn tŷ yn ardal Llangollen.

Cafodd tri pherson yn eu 90au eu cludo i’r ysbyty o dŷ ym Mhandy am 16:16 brynhawn dydd Sul.

Mae dau o'r tri, dyn a dynes, yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Daeth diffoddwyr tân o Langollen, Johnstown, Wrecsam, Cerrigydrudion, y Bala, y Waun, Bwcle a'r Wyddgrug i ymladd y fflamau, gyda chwe chriw yn brwydro'r tân pan oedd ar ei waethaf.

Image
S4C
Difrod tân yn y tŷ yn Pandy, Llangollen fore dydd Llun. 

Dywedodd Steve Houghton o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd hwn yn dân difrifol mewn adeilad mawr, ac fe weithiodd ein diffoddwyr tân yn dda mewn amodau anodd.

“Roedd y preswylwyr allan o’r tŷ ar ôl cyrraedd, ac mae fy meddyliau gyda nhw a’u teulu yn ystod yr amser yma sy'n llawn straen - rydym i i gyd yn gobeithio y byddan nhw’n gwella’n llwyr.

“Mae'r difrod dinistriol yn dangos yn union pa mor ddinistriol y gall tân fod - a dro ar ôl tro rydyn ni'n mynychu tanau mewn tai sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae mor hawdd anghofio am eich bwyd sy’n coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, pan fod rhywbeth wedi tynnu sylw neu wedi bod yn yfed.

"Mae ein neges yn glir - peidiwch byth â throi eich cefn wrth goginio, hyd yn oed am funud.

"Mae larymau mwg yn arbed bywydau - gall y rhybudd cynnar a ddarperir gan larwm mwg ddarparu munudau hanfodol i'ch helpu i ddianc yn ddianaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.