Y Frenhines yn colli gwasanaeth Sul y Cofio oherwydd anaf i'w chefn

Nid oedd y Frenhines Elizabeth II yn bresennol yng ngwasanaeth Sul y Cofio yn y Senotaff fore Sul.
Yn ôl The Evening Standard, daeth adroddiadau gan Balas Buckingham bod y Frenhines wedi dioddef anaf i'w chefn.
Daeth hyn ddyddiau ar ôl i'r Palas gyhoeddi y byddai Ei Mawrhydi yn bresennol yn y gwasanaeth ar ôl cyfnod o "seibiant" yn dilyn gyngor meddygol.
Treuliodd y Frenhines noson yn yr ysbyty ar 20 Hydref lle gafodd hi brofion cychwynnol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Sarjant Adrian Harlen