Newyddion S4C

Cymru'n trechu Belarws mewn perfformiad gwych yng Nghaerdydd

13/11/2021
Pel droed Cymru

Fe wnaeth Cymru nodi canfed gêm Gareth Bale gyda buddugoliaeth wych 5-1 yn erbyn Belarws yng Nghaerdydd nos Sadwrn. 

Roedd hi’n ddechreuad perffaith i Gymru wrth i Aaron Ramsey sgorio o fewn dau funud ar ôl  i ergyd Ben Davies gael ei wthio’n syth o’i flaen gan y gôl-geidwad.

Roedd Cymru ar y blaen o ddwy gôl o fewn 20 munud ar ôl i gic Neco Williams gropian i'r rhwyd yn dilyn arbediad gwan arall gan y golwr.

Fe adawodd Bale cae Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod yr hanner amser wedi iddo chwarae’i funudau cyntaf ers dychwelyd o anaf i’w linyn y gar. 

Ni chafodd hyn effaith ar berfformiad Cymru serch hynny - sgoriodd Ramsey ei ail gôl trwy gic o’r smotyn tri munud i fewn i'r ail hanner. 

Parhaodd awydd Cymru i ymosod trwy gydol yr ail hanner a daeth pedwaredd gôl chwarter awr cyn y chwiban olaf wrth i Ben Davies sgorio am y tro cyntaf i'w wlad. 

Daeth gôl gorau'r gêm gan yr ymwelwyr pan gafodd y Wal Goch eu synnu gan ymdrech wych Artem Kontsevoi 20 metr o’r rhwyd yn y pum munud olaf.

Ond gyda Chymru oedd y gair olaf wrth i Connor Roberts sgorio pumed gôl i’r crysau cochion funud cyn amser llawn. 

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Cymru i'r ail safle yng Ngrŵp E, tri phwynt o flaen y Weriniaeth Siec.

Mae'r canlyniad campus hefyd yn golygu bod gan Gymru fantais o ddwy gôl dros y Sieciaid - sydd yn wynebu Estonia wythnos nesaf.

Fe fydd Cymru nawr yn herio arweinwyr y grŵp Gwlad Belg dydd Mawrth lle byddai gêm gyfartal yn sicrhau ail safle yn y grŵp a llwybr haws yn y gemau ail-gyfle. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.