Newyddion S4C

Ffilm newydd Ryan Reynolds ar gael gydag is-deitlau Cymraeg

Nation.Cymru 13/11/2021
Ryan Reynolds

Mae ffilm newydd Ryan Reynolds ar gael ar Netflix gydag is-deitlau Cymraeg. 

Mae cydberchennog newydd tîm pêl-droed Wrecsam yn cyd-serennu gyda Dwayne Johnson a Gal Gadot yn y ffilm 'Red Notice' a gafodd ei ryddhau wythnos diwethaf.

Dim ond pum iaith y gellir dewis ar gyfer yr is-deitlau, gyda'r Gymraeg yn un o'r opsiynau.

Yn ôl Nation.Cymru, mae cefnogwyr ar ben eu digon gyda'r manylyn ac eisoes wedi canmol Reynolds a'i gyd-gadeirydd Rob McElhenney am eu hymdrechion gyda'r iaith.

Mae'r ffilm ar gael i'w gwylio gydag is-deitlau Cymraeg, Saesneg, Pwyleg, Ffrangeg neu Arabeg. 

Darllenwch ragor yma

Llun: Gage Skidmore

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.