Bangor: Argymell cymeradwyo stad o dai newydd ger Castell Penrhyn

Cynlluniau'r tai

Mae cynllunwyr wedi argymell cymeradwyo stad o dai newydd ger tiroedd Castell Penrhyn ar gyrion dinas Bangor.

Bydd cynghorwyr Cyngor Gwynedd yn ystyried cynlluniau ar gyfer 34 o dai a 14 o fflatiau fforddiadwy yn Llandygai.

Mae’r safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac mae’n agos at Reilffordd Chwarel y Penrhyn, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd.

Mae tiroedd Castell Penrhyn, Parc a Gardd Hanesyddol Gradd II, gerllaw, a bwthyn rhestredig Gradd II o’r 1790au hefyd ar fin dwyreiniol y safle.

Mae'r datblygiad arfaethedig ar gae o 2.5 hectar, gyferbyn ag Amlosgfa Bangor a 300 metr i'r dwyrain o ystâd Maesgeirchen, ar ochr arall yr A5.

Bydd y cais yn mynd o flaen pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun, 2 Chwefror.

Mae'r cais wedi'i wneud gan Williams Homes (Bala) Ltd.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r fynedfa ar yr A5, rhwydwaith o ffyrdd mewnol, llefydd parcio, cysylltiadau gwell i gerddwyr gyrraedd arhosfa bysiau, a llefydd chwarae i blant.

Mae nifer o faterion wedi cael eu codi gan wahanol gyrff, gan gynnwys yr effaith ar y dirwedd hanesyddol ac ar asedau treftadaeth, ond mae gwelliannau wedi'u gwneud i'r cynlluniau gwreiddiol ers hynny.

Dywedodd adroddiad fod trigolion cyfagos wedi cael gwybod am y datblygiad, ond nad oedd unrhyw ymatebion wedi'u derbyn.

Dywedodd adroddiad gan swyddogion cynllunio y cyngor eu bod yn “gwerthfawrogi bod trafodaethau helaeth” wedi digwydd cyn cyflwyno'r cais “er mwyn sicrhau datblygiad o safon sy’n ystyried natur gadwraeth sensitif y safle".

“Rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r sylwadau a dderbyniwyd a chynigir amodau priodol yn unol ag argymhellion yr ymgynghorwyr perthnasol,” medden nhw.

“Ni chanfuwyd unrhyw effeithiau andwyol sylweddol sy’n groes i bolisïau cynllunio lleol a chanllawiau cenedlaethol perthnasol,” ac ystyriwyd bod y cynnig yn “dderbyniol".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.