Newyddion S4C

Cymru'n chwilio am fuddugoliaeth gyntaf Cyfres yr Hydref yn erbyn Fiji

14/11/2021
Alex Cuthbert

Fe fydd Cymru'n ceisio sicrhau ei buddugoliaeth gyntaf yng Nghyfres yr Hydref wrth wynebu Fiji ddydd Sul. 

Mae'r crysau cochion wedi dioddef dwy golled yng Nghyfres yr Hydref hyd yn hyn - cweir siomedig yn erbyn Seland Newydd a chystadleuaeth agos gyda De Affrica. 

Bydd yr hyfforddwr Wayne Pivac yn gobeithio gweld canlyniad mwy addawol yn Stadiwm y Principality dros y penwythnos gan nad yw Fiji wedi curo Cymru ers 2007. 

Ond mae'r tîm o'r Môr Tawel wedi achosi problemau i'r Cymry yn y gorffennol, gan gynnwys eu gêm ddiwethaf yng Nghwpan y Byd 2019 lle lwyddodd Fiji i fynd deg pwynt ar y blaen o fewn deng munud. 

Mae nifer o'r wynebau heriodd Cymru bryd hynny yn bresennol yn y garfan, sydd o dan hyfforddiant y Cymro Gareth Baber, gyda chwaraewyr fel yr asgellwr Josua Tuisova a'r wythwr Villame Mata. 

Image
Josh Adams
Y tro diwethaf i Gymru wynebu Fiji oedd buddugoliaeth 29-17 yng Nghwpan y Byd 2019

Yn ffodus i Gymru, ni fydd yn rhaid delio gyda phŵer aruthrol Semi Radadrada - oedd yn seren y gêm pan gwrddodd y timau yn Japan - oherwydd anaf i'w ben-glin. 

Yng ngharfan Cymru mae Pivac wedi gwneud sawl newid annisgwyl i'r tîm a gollodd i bencampwyr y byd yn y munudau olaf ddydd Sadwrn diwethaf. 

Fe fydd asgellwr Alex Cuthbert yn chwarae ei gêm gyntaf dros ei wlad ers 2017 wrth i Josh Adams symud i'r canol ynghyd â Johnny Williams. 

Bydd Kieran Hardy a Thomas Young yn ysu i wneud argraff yn ei gemau cyntaf o'r ymgyrch tra bod Taine Basham yn symud i safle'r wythwyr ar ôl perfformiadau cryf yn y ddwy gêm ddiwethaf. 

Bydd WillGriff John hefyd yn dechrau ei gêm gyntaf i'w wlad ar ôl i newid munud olaf cael ei wneud i'r tîm cychwynnol wrth i Thomas Francis dioddef cnoc i'w ben yn ystod ymarfer dydd Gwener.

Ellis Jenkins fydd yn arwain y tîm ar ôl serennu yn erbyn De Affrica yn ei gêm gyntaf yn ôl i Gymru ers dwy flynedd. 

Ar y fainc, mae Christ Tshiunza yn paratoi i ennill ei gap cyntaf yn 19 oed, wythnos yn ôl i'r ail-rheng chwarae i Brifysgol Caerwysg. 

Hefyd ar y fainc mae'r prop Gareth Thomas, sy'n gobeithio ychwanegu at ei dri chap y penwythnos hwn. 

Image
Gareth Thomas
Mae Gareth Thomas am fanteisio ar gyfle arall i chwarae i Gymru

"Fi'n falch bod fi 'di cael y cyfle 'na i ddod 'nôl wythnos hyn i gobeithio dod off y fainc yn erbyn Fiji," dywedodd wrth Newyddion S4C. 

"Mae'n nhw gallu bod yn dwyllodrus gyda'r bel yn dwylo nhw." 

"Ni gyd yn gwybod beth mae'n nhw gallu dod a, ond mae lan i ni cau hwnna off yn gynnar a datblygu gêm ein hunain. 

Carfan Cymru: Liam Williams; Alex Cuthbert, Josh Adams, Johnny Williams, Louis Rees-Zammit; Dan Biggar, Kieran Hardy; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis; Will Rowlands, Adam Beard; Ellis Jenkins, Thomas Young, Taine Basham.

Eilyddion: Bradley Roberts, Gareth Thomas, WillGriff John, Christ Tshiunza, Seb Davies, Tomos Williams, Callum Sheedy, Nick Tompkins.

Cymru v Ffiji, Stadiwm y Principality - y gic gyntaf am 15:15. Gwyliwch yr uchafbwyntiau ar S4am 18:30. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.