Newyddion S4C

Penwythnos y Pasg: Annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus

02/04/2021
Pobl yn y parc

Mae arweinwyr awdurdodau lleol wedi annog pobl i beidio ag 'ymddwyn yn anghyfrifol' dros Ŵyl y Pasg er mwyn osgoi 'ton newydd o Covid-19'. 

Fe wnaeth Dylan Williams, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, rybuddio pobl yr ynys i ddefnyddio'r cyfleusterau profi sydd ar gael.

Môn sydd â'r ail gyfradd uchaf o achosion Coronafeirws yng Nghymru, gyda 97.1 ar gyfer 100,000 o'r boblogaeth - ffigwr sy'n llawer uwch na'r gyfradd ar gyfartaledd yng Nghymru (35.0).

Mae'r rheolau presennol yn caniatáu i chwech o bobl o ddwy aelwyd gwrdd y tu allan, ac mae'r rheol aros yn lleol wedi'i chodi erbyn hyn. 

Fe all pobl deithio o fewn ffiniau'r wlad dros benwythnos y Pasg, ond dyw teithio mewn ac allan o Gymru ddim yn cael ei ganiatáu, oni bai fod y siwrne yn un hanfodol. 

Image
Yr Wyddfa
Yr olygfa ar Y Wyddfa yn ystod Gŵyl Banc y Pasg 2020.

Llun: Peri Vaughan Jones

Mae'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud fod yr awdurdodau yno 'eisiau osgoi’r golygfeydd' a welodd y sir y llynedd. 

Fe welodd atyniadau fel Yr Wyddfa dorfeydd o bobl wedi'r cyfyngiadau gael eu llacio yn Ebrill 2020. Roedd pobl i'w gweld yn ciwio i gyrraedd copa'r Wyddfa, ac roedd trafferthion pharcio ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Dywed Mr Siencyn: “Er bod y rheol aros yn lleol wedi ei godi, mae’n rhaid cofio nad ydym yn ôl yn yr amseroedd cyn-Covid-19 a bod y perygl o haint yn parhau. Rydym yn annog pobl i ofalu am ei gilydd, ein cymunedau, ein hamgylchedd hyfryd a chadw at reolau Covid-19 Cymru.

“Mewn sir sy’n cynnig cymaint o atyniadau anhygoel, rydym yn gofyn i bobl feddwl ddwywaith a mynd i rywle arall os ydynt yn gweld torf fawr neu feysydd parcio llawn. Rydym eisiau osgoi’r golygfeydd a welsom y llynedd pan laciwyd y rheolau Covid-19 y tro cyntaf, gyda channoedd o yrrwyr yn torri’r rheolau parcio yn rhai o leoliadau mwyaf poblogaidd y sir a lle greodd y nifer fawr o bobl mewn rhai lleoliadau heriau gwirioneddol.

“Ein blaenoriaeth yw cadw pobl Gwynedd a phobl sy’n ymweld â’n sir yn gyfreithlon yn ddiogel - gallant wneud hyn drwy fod yn amyneddgar, cynllunio o flaen llaw a pheidio rhoi pwysau diangen ar wasanaethau cyhoeddus ar adeg sy’n parhau’n heriol. Mae gan bawb ran i’w chwarae yn hynny ac wrth stopio lledaeniad yr haint.”

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhyddhau cyngor ar gyfer pobl sy'n dymuno defnyddio'r meysydd parcio dros y penwythnos, sy'n awgrymu lefelau prysurdeb uchel iawn.

Rhybuddion yr heddlu 

Ar drothwy'r penwythnos, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi annog ffermwyr neu berchnogion tir i fod yn wyliadwrus o ddigwyddiadau fel rêfs anghyfreithlon. 

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhannu cyngor i yrwyr beiciau modur i fod yn ofalus ar y ffyrdd. Maen nhw'n rhagweld y bydd nifer yn manteisio ar y tywydd braf dros y penwythnos.

'Cyfrifoldeb personol yn allweddol'

Mae'r gyfradd achosion yn Ynys Môn yn gostwng yn raddol, ond hi yw'r sir sydd â'r ail gyfradd achosion uchaf yng Nghymru. 

Fe welodd ardaloedd megis Ynys Cybi glystyrau o achosion yn ddiweddar, gyda'r Dirprwy Brif Weithredwr yn annog pobl sydd heb symptomau i gael prawf Covid-19 yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. 

“Wrth i’r cyfyngiadau Cenedlaethol lacio’n raddol, mae cyfrifoldeb personol yn allweddol yn y frwydr yn erbyn y firws", meddai.

"Os ydych yn ymweld â theulu dros gyfnod y Pasg, cofiwch ddilyn y canllawiau a pheidio cymysgu y tu mewn.

“Mae’n hanfodol bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau craidd; cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg wyneb, golchi ein dwylo a gadael awyr iach i mewn. Peidiwch ag agor y drws i don newydd o Covid-19 dros benwythnos y Pasg drwy gymysgu ac ymddwyn yn anghyfrifol.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.