Teyrnged i'r 'bachgen perffaith' fu farw mewn ymosodiad gan gi
Mae teulu bachgen 10 oed fu farw mewn ymosodiad gan gi yn Sir Caerffili wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jack William Lis yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ ym Mhentwyn, Penyrheol, Caerffili ddydd Llun.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod eu calonnau wedi eu torri ac ni fyddai bywyd fyth yr un fath hebddo:
“Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai unrhyw riant fyth orfod ei ysgrifennu. Mae gennym ni gymaint o eiriau rydym eisiau eu dweud am ein bachgen hyfryd, ond nid yw geiriau’n ddigon.
“Rydym yn ei garu yn fwy na gall geiriau ddisgrifio. Roeddem mor falch ohono. Y bachgen mwyaf annwyl – ni oedd y rhieni a’r teulu mwyaf balch ar y blaned.
“Byddwn yn gweld eisiau ei ffyrdd hynod a’r straeon y byddai’n treulio cymaint o amser yn eu dweud wrthym ni. Bydd yn ein calonnau am byth. Cwsg yn dawel Jack, ein bachgen perffaith.”
'Anafiadau difrifol'
Mae cwest i farwolaeth Jack fore dydd Gwener wedi clywed ei fod wedi marw o “anafiadau difrifol i’w ben ag i’w wddf”.
Clywodd y cwest yn Llys y Crwner Casnewydd fod Jack yn chwarae tu fas i’w gartref cyn iddo fynd mewn i dŷ ei ffrind.
Dywedodd y crwner Caroline Saunders fod y ci wedi ymosod ar Jack wedi iddo fynd fewn i’r tŷ.
Cafodd parafeddygon eu galw i’r cyfeiriad, ond clywodd y llys nad oedd modd i Jack oroesi’r anafiadau.
Cafodd menyw 28 oed o ardal Caerffili ei harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth.
Fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn ddiweddarach.
Daeth dau ddyn - un 34 oed o ardal Aberpennar ac un 19 oed o ardal Caerffili - i gyfweliad gwirfoddol mewn perthynas â throsedd o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth. Cafodd y ddau ohonynt eu rhyddhau yn ddiweddarach hefyd.
Adnabod brid y ci
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent: “Mae’r gwaith i adnabod brid y ci a oedd yn rhan o’r ymosodiad hwn yn parhau. Unwaith bydd y gwaith hwn wedi gorffen, byddwn yn gallu canfod a yw’r brid ar y rhestr o gŵn y mae’n anghyfreithlon i fod yn berchen arnyn nhw yn y wlad hon a bydd swyddogion yn ymchwilio’n drwyadl i unrhyw droseddau eraill.
“Rwyf yn deall bod yr ymchwiliad hwn o ddiddordeb mawr i bobl yn ein cymunedau. Mae’n hollbwysig bod pobl yn ystyried sut gallai eu sylwadau neu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol effeithio ar ein hymchwiliad ac ar deulu Jack, sy’n galaru.
“Unwaith eto, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deulu Jack, ei ffrindiau, ffrindiau ysgol a phawb yn y gymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.”
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100392510.
Llun: Heddlu Gwent