Cyflwr eczema yn ‘dinistrio bywyd’ dyn 21 oed
Cyflwr eczema yn ‘dinistrio bywyd’ dyn 21 oed
Mae elusen wedi galw am fwy o gefnogaeth i drin y boen gorfforol a meddyliol o fyw gyda chyflwr eczema difrifol.
Mae Aled Biston, 21 o Bontarddulais, yn dweud bod eczema yn “dinistrio ei fywyd” ac wedi effeithio ar ei iechyd meddwl.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Fi mor ofnus i ddweud bod eczema'n rheoli bywyd fi, ond dyna'r realiti.”
Yn ôl y Sefydliad Dermatolegwyr Prydeinig, mae'r pandemig wedi gwaethygu amseroedd aros ar gyfer triniaethau.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi buddsoddi yn y GIG er mwyn ceisio mynd i'r afael ag amseroedd aros.
Ers dod i’r brifysgol yng Nghaerdydd a wynebu straen asesiadau, mae cyflwr croen Aled wedi gwaethygu.
Ar ôl trio gwahanol feddyginiaethau ac eli i’r croen, mae'n dal i ddioddef poen ofnadwy.
Dywedodd: “Pan ti'n cysgu, weithie ti'n crafu a ti ddim yn sylwi a ma'n anodd cysgu achos ma'r sensation na i grafu wastod 'na, dyw e byth rili'n mynd i ffwrdd.
"Mae darnau o groen sych ar y gwely, darnau o waed o le ti di bod yn crafu.
"Ma cal cawod yn y bore'n rili anodd achos ma dŵr twym yn bwrw'r creithie 'na ar dy groen di lle ti newydd fod yn crafu, felly mae'n rili brifo."

I Aled, mae’r boen feddyliol sy’n dod gyda’r cyflwr yn gallu bod yn waeth.
Dywedodd: "Ma fe di bwrw iechyd meddwl fi lot.
“Ma lot o adegau di bod lle fi di colli darlithoedd achos sa i moyn codi'n y bore, neu sai moyn gweld ffrindie fi, fi jyst moyn aros yn stafell fi drwy'r dydd, sa i moyn symud,” ychwanegodd.
“Yn ddiweddar fi di bod yn trial brwydro trwy'r poen ond ma lot o bethe meddyliol am y peth.
“Ma mynd i'r toiled pan ti mas gyda ffrindie a edrych yn y drych na a ti'n gweld e ar dy wyneb di. Ti'n gweld darnau coch, croen sych," dywedodd.
“Ma pethe ma pobl yn gallu 'neud o ddydd i ddydd heb feddwl ddwywaith amdano fe, fi ffili 'neud ‘ny.”

Yn ôl elusen y Gymdeithas Eczema Genedlaethol, mae angen mwy o gymorth iechyd meddwl wrth drin achosion difrifol o eczema.
Mae ystadegau'r elusen yn dangos bod 1 o bob 10 oedolyn yn y DU yn byw gydag eczema.
Dywedodd Andrew Proctor o’r elusen: “Mewn holiaduron ry’n ni wedi cynnal, dydy’r mwyafrif o bobl sy’n dioddef o achosion difrifol o eczema erioed wedi cael cynnig cymorth iechyd meddwl.
“Pan chi’n byw gyda’r cyflwr, mae’ch croen chi’n amrwd, briwiau a chleisiau a chroen sych, mae’n effeithio ar eich iechyd meddwl chi’n enfawr o ran poeni am ddelwedd, ymddygiad a’r boen,” ychwanegodd.
“Mae angen cymorth arbenigol ar gyfer y croen, wrth gwrs, ond mae wir angen i bobl ddeall faint o effaith mae hyn yn cael ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig pobl ifanc.”
‘Rhestrau aros yn mynd yn hirach’
Ond er gwaethaf pa mor gyffredin yw’r cyflwr, mae'r Sefydliad Dermatolegwyr Prydeinig yn dweud bod prinder arbenigwyr croen yng Nghymru yn waeth o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU.
Yn ogystal â hynny, mae’r Sefydliad yn dweud bod y rhestrau aros yn “mynd yn hirach” oherwydd y pandemig.
Bu’n rhaid i Aled aros bron i flwyddyn i weld arbenigwr pan oedd cyflwr ei groen yn ddifrifol wael cyn y pandemig. Dywedodd bod y profiad o orfod aros yn “dorcalonnus”.
Ond, roedd ei brofiad o gael cymorth gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ar ôl aros blwyddyn “yn help mawr".
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod ei gwasanaeth dermatoleg wedi “arloesi” yn ystod a chyn y pandemig.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd: “Rydym bellach yn gweld achosion sydd ddim yn rhai brys yn ogystal â rhai brys, ac mae staff yn gweithio’n eithriadol o galed i leihau rhestrau aros, er enghraifft, trwy ychwanegu rhestrau ychwanegol i’r nosweithiau a’r penwythnosau.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru: "Rydym yn adnabod bod cyflyrau dermatolegol yn gallu effeithio ar iechyd meddwl unigolyn."
"Mae ein cynllun Dermatoleg Genedlaethol yn gosod canllawiau i fyrddau iechyd ar sut dylai gwasanaethau cael eu darparu er mwyn gwella profiadau cleifion."
"Yn anffodus, mae'r pandemig wedi effeithio ar amserau aros ar draws y GIG ac rydym wedi cyhoeddi bron i £250m o fuddsoddant fel rhan o'n cynllun adfer."
'Y peth cynta' a'r ola' ar fy meddwl drwy'r dydd'
Yn ôl Aled, mae angen codi ymwybyddiaeth am sut mae’r cyflwr yn effeithio ar iechyd meddwl dioddefwyr.
Dywedodd: “Fi'n credu bod angen mwy o ymwybyddiaeth am bobl sydd ag eczema am sut mae e'n gallu effeithio bywydau nhw.
“Fi'n codi yn y bore, y peth cynta' ar fy meddwl i, trwy'r dydd a wedyn cyn i fi fynd i gysgu, y peth ola' fi'n meddwl am drwy'r nos fyd,” dywedodd.
“Ma hi jyst yn rili rili anodd byw da fe, dyw pobl ddim yn sylwi 'ny.”