
Gweithdy yn dangos i blant o deuluoedd milwrol 'dydy nhw ddim ar ben eu hun'
Gweithdy yn dangos i blant o deuluoedd milwrol 'dydy nhw ddim ar ben eu hun'
Mae elusen wedi cynnal gweithdy dros y we i 260 o blant ysgol yng Nghymru sydd o deuluoedd milwrol.
Pwrpas y sesiwn gan elusen Little Troopers ddydd Mercher oedd i annog y plant i drafod eu bywydau anghyffredin gydag eraill sydd â phrofiadau tebyg.
Mae yna tua 2,500 o blant sydd ag aelodau o'u teulu yn y lluoedd arfog yng Nghymru, a bu 40 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan yn y gweithdy, gan gynnwys Ysgol y Tywyn, Caergybi.
Mae 16 disgybl yn Ysgol y Tywyn gyda rhiant neu warchodwr yn gweithio yn y lluoedd arfog.
Yn ôl pennaeth yr ysgol, Emyr Williams, roedd y gweithdy yn ffordd o ddangos i'r plant nad ydynt “ar ben ei hunain” a bod gan bobl eraill brofiadau tebyg iddyn nhw.
"Dydy o ddim yn hawdd bod yn y fyddin, mae 'na lot o newidiadau yn bywyd y plant ‘ma," meddai.
"Dydy o ddim yn hawdd symud, goro’ gwneud ffrindiau newydd, mae’r plant ‘ma falla wedi symud tŷ chwe gwaith cyn cyrraedd yr ysgol yma."

"Felly mae’n gyfle i nhw dod i ddallt dydy nhw ddim ar ben eu hunain, mae na gymorth ar gael.
"Y pwrpas oedd i neud siŵr bod y plant yn sylweddoli dydy nhw ddim ar eu hunain, ma na blant eraill fatha nhw."
Roedd y gweithdy yn edrych ar rai o'r heriau unigryw sy’n wynebu plant sydd o deuluoedd yn y lluoedd arfog - gan gynnwys cael rhiant sydd wedi ei leoli dramor a gorfod symud cartref neu ysgol yn rheolaidd.
Dywedodd Louise Fetigan, sylfaenydd a rheolwr gweithredu Little Troopers, mai nod yr elusen yw i sicrhau bod ysgolion yn medru darparu cymorth i blant o deuluoedd milwrol.
“Mae ein helusen wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob ysgol ddealltwriaeth dda o'r heriau unigryw y gall bywyd milwrol ei gynnig ac y gall pob plentyn milwrol gael gafael ar gymorth yn yr ysgol os oes ei angen arnynt," meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio bod y plant yn cael llawer o hwyl ac yn mwynhau dod at ei gilydd i ddathlu’r hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn ‘Little Trooper’.”

Dywedodd Mr Williams o Ysgol y Tywyn fod y gweithdy wedi bod yn llwyddiant ac fe hoffai weld sesiynau tebyg yn cael eu cynnal yn aml yn y dyfodol.
"Dywedodd un o’r disgyblion ar y diwedd bod hi falch cael gweld dyw hi ddim ar ben ei hunan a dyw hi ddim yr unig rai," meddai.
"Bydda i bendant yn croesawu rhywbeth fel ‘ma i’r ysgol to, byswn i’n hoffi i agor e fyny i’r ysgol gyfan, er mwyn i blant eraill cael gweld be ma plant teuluoedd sydd yn yr awyrlu yn gorfod mynd trwy."
"Dwi feddwl bod hi’n bwysig i’r ysgol i gyd cael gweld y neges, nid jyst plant sydd yn yr awyrlu neu’r fyddin."
Llun: Little Troopers