Pecynnau cymorth cyntaf i lefydd torfol i ‘gynyddu goroesiad’ ymosodiadau terfysgol
Bydd pecynnau cymorth cyntaf milwrol sy’n cynnwys gorchuddion clwyfau yn cael eu rhoi mewn mannau cyhoeddus torfol.
Nod y pecynnau yw i gynyddu siawns person o oroesi os ydynt yn cael eu hanafu mewn ymosodiadau terfysgol.
Byddant hefyd yn gallu cael eu defnyddio yn sgil trywanu neu digwyddiadau difrifol eraill.
Mae stadiwm pêl-droed, arena a gorsafoedd rheilffordd ymhlith y lleoedd i gael cynnig y pecynnau cymorth cyntaf.
Yn ôl The Independant, maent yn cael eu cyflwyno wrth i lefel bygythiad terfysgaeth genedlaethol y DU barhau i fod yn “sylweddol”, sy'n golygu bod ymosodiadau pellach yn cael eu hystyried yn debygol.
Ar hyn o bryd dyw parafeddygon ddim yn gallu mynd i mewn i leoliad lle mae ymosodiad terfysgol wedi digwydd oni bai bod ganddyn nhw yr offer addas i’w diogelu.
Dywedodd St John Ambulance sydd wedi gweithio ar y pecynnau gyda CitizenAID a’r Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol, eu bod nhw’n “gam pwysig ymlaen at achub mwy o fywydau”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Twitter