Newyddion S4C

Arestio dau o Ddolgellau yn dilyn gwrthdrawiad ‘difrifol’ ger Abermaw

09/11/2021
A496 ger Abermaw

Mae'r heddlu wedi arestio dau ddyn fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad yng Ngwynedd sydd wedi gadael dynes ifanc mewn cyflwr difrifol. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad ar yr A496 rhwng Abermaw a Dolgellau nos Sul, 31 Hydref. 

Mae llanc 16 oed a dyn 24 oed, y ddau o ardal Dolgellau, wedi eu harestio ar amheuaeth o nifer o droseddau gyrru. 

Mae dynes 27 parhau yn parhau yn yr ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol ac sy’n newid bywyd. 

Cerbyd Golf VW glas oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig cyn 20:10, mewn ardal sy’n cael ei alw’n ffordd Glandwr, neu Glandwr Straight. 

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod 21000757951. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.