Dyn yn euog o lofruddio merch 16 oed yn Rhondda Cynon Taf

Mae dyn wedi'i gael yn euog o lofruddio merch 16 oed mewn bwyty yn Rhondda Cynon Taf.
Fe laddodd Chun Xu, 32, Wenjing Lin ym mwyty Blue Sky ym mhentref Ynyswen ger Treorci fis Mawrth eleni.
Fe wnaeth y rheithgor yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddyfarnu fod Mr Xu yn euog hefyd o geisio llofruddio Yongquan Jiang, oedd yn llystad i Wenjing.
Fe fydd Mr Xu yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener 12 Tachwedd.
Darllenwch y stori llawn yma.