Cyhoeddi enw bachgen 10 oed a gafodd ei ladd gan gi yn Sir Caerffili
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw bachgen 10 oed sydd wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi yn Sir Caerffili.
Bu farw Jack Lis ddydd Llun 8 Tachwedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ym Mhentwyn, Penyrheol, yng Nghaerffili am tua 15:55.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau na ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghartref Jack Lis, ond mewn tŷ arall ar stryd gyfagos.
Aeth swyddogion arfog a pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i leoliad y digwyddiad, ond roedd y bachgen wedi marw yn y fan a’r lle.
Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion arfog yr heddlu ac nid oedd unrhyw anifeiliaid eraill yn rhan o'r ymosodiad.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent: “Estynnaf fy nghydymdeimlad i deulu Jack, ei ffrindiau, ffrindiau ysgol a phawb yn y gymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.
“Gallwn gadarnhau na ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhŷ teulu Jack, ond mewn eiddo arall mewn stryd gyfagos," ychwanegodd.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd yr Uwch-arolygydd Carl Williams o Heddlu Gwent: "Mi fyddwn ni'n holi pawb sydd ynghlwm â'r digwyddiad, yn amlwg perchennog y ci hefyd."
"Mi fyddwn ni'n holi pawb sydd ynghlwm â'r digwyddiad, yn amlwg perchennog y ci hefyd."
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) November 9, 2021
Uwch Arolygydd Carl Williams o Heddlu Gwent yn dweud y bydd y llu yn ymchwilio i ddarganfod "pa fath o gi yn union" wnaeth ladd Jack Lis ym Mhenyrheol, Caerffili brynhawn Llun. pic.twitter.com/mFrnQ5EhHJ
'Cymuned wedi ei hysgwyd'
Mae cynghorydd yn Sir Caerffili wedi disgrifio'r digwyddiad fel un o'r “trychinebau gwaethaf” i’r ardal ei gweld.
Dywedodd y Cynghorydd Lindsay Whittle fod y gymuned leol wedi’i “hysgwyd”.
Mae’r Cynghorydd Whittle wedi cynrychioli’r ward ers 45 o flynyddoedd, ac mae’n gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol leol lle'r oedd y bachgen yn ddisgybl.
“Mae’r gymuned wedi ei hysgwyd – chi’n clywed am y pethau yma ond dy' chi byth yn meddwl y bydde fe’n digwydd yn eich cymuned chi.
“Ry' ni wedi gweld trychinebau ar yr ystâd o’r blaen, ond mae gen i ofn fod hon yn un o’r gwaethaf i ni ei gweld.
“Mi roedd yna lawer o ddagrau dros nos, a bydd mwy i ddod dwi’n siŵr.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Whittle ei fod wedi gofyn am gymorth ychwanegol ac arbenigol i weithwyr ysgol y bachgen, a bod y mesurau yna bellach yn eu lle.
Ychwanegodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent: “Bydd swyddogion yn gwneud ymholiadau pellach ac yn aros yn yr ardal wrth i’r ymchwiliad barhau.
“Mae’n bosib y byddwch yn gweld gweithgaredd yr heddlu yng Nghaerffili fel rhan o’r gwaith hwn. Efallai eich bod hefyd wedi gweld mwy o bresenoldeb yn gynharach heddiw tra roedd swyddogion yn mynychu'r digwyddiad, ond peidiwch â dychryn."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod log 2100392510 neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter.
Mae modd hefyd gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw trwy ffonio 0800 555 111 medd y llu.
Lluniau: rhaglen Newyddion S4C