Dyn fu'n sownd mewn ogof am ddeuddydd yn gwneud yn 'rhyfeddol o dda'
Dyn fu'n sownd mewn ogof am ddeuddydd yn gwneud yn 'rhyfeddol o dda'
Mae dyn oedd yn sownd mewn ogof ym Mannau Brycheiniog am ddeuddydd yn gwneud yn "rhyfeddol o dda o ystyried pa mor hir fuodd yn yr ogof".
Cafodd y dyn ei achub am 19:45 nos Lun ac mae wedi ei drosglwyddo i'r ysbyty am driniaeth bellach.
Yn ôl Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru, fe gwympodd y dyn i mewn i Ogof Ffynnon Ddu yn ardal Ystradgynlais ddydd Sadwrn 6 Tachwedd.
Mae asiantaeth newyddion PA yn adrodd ei fod wedi dioddef nifer o anafiadau, gyda'i ên a'i goes wedi eu torri, ac mae hefyd wedi anafu asgwrn ei gefn.
Wrth siarad gyda gohebwyr nos Lun, dywedodd Gary Evans, Cydlynydd y Gwasanaethau Brys fod y dyn yn "gwneud yn rhyfeddol o dda o ystyried pa mor hir fuodd o yn yr ogof, pa mor hir fuodd o mewn stretsier - mae'n gwneud yn dda iawn wir."
Ychwanegodd fod y timau "wrth eu boddau" hefo'r broses o achub y dyn, gan ddweud fod yr achubiaeth yn un "anodd".
Mae rhaglen Good Morning Britain ITV yn adrodd fod y dyn bellach wedi ei symud i'r ysbyty yng Nghaerdydd gyda anafiadau difrifol.
Roedd yr ymgyrch i'w achub yn un sylweddol gyda dros 300 o bobl wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.
Roedd 10 o dîmau achub ar draws y DU yn rhan o'r gwaith yn ogystal â'r gwasanaethau brys.
Treuliodd y criwiau 54 awr yn ceisio symud y dyn allan o'r ogof a'i achub.
Yn ôl y tîm achub, fe gafodd y dyn ei symud yn nes tuag at un allanfa ar y mynydd ger Penwyllt fore dydd Llun.
Yn ôl Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru, roedd hi'n "niwlog iawn" ger yr ogof wrth i'r tîmau wneud eu gwaith.
Dywedodd llefarydd yn gynharach ei bod yn "anodd gweld yr allanfeydd" oherwydd y tywydd.
‘Ogof boblogaidd iawn’
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae system ogofau Ffynnon Ddu ymhlith “y mwyaf yn Ewrop ac yn boblogaidd iawn gydag ogofwyr profiadol.”
Cafodd y system o ogofâu eu darganfod yn 1946 ac mae’n ymestyn am bellter o tua 60km.
Dim ond pobl sydd â'r offer priodol a thrwydded gan Glwb Ogofâu De Cymru all gael mynediad i’r ogofâu, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ym mis Medi, adroddodd Tîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru bod dau berson wedi eu hachub o Ogof Ffynnon Ddu.
Cafodd y ddau fan anafiadau ar ôl i ddau garreg mawr syrthio yn yr ogof.
Cafodd tîm ehangach eu galw i achub y ddau.
Dywedodd llefarydd bryd hynny eu bod yn "lwcus" o fod wedi "osgoi anafiadau difrifol".
Llun: Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru