Newyddion S4C

COP26: Gwasanaethau iechyd yn ymrwymo i fod yn Sero-Net

09/11/2021
Gwasanaeth brys

Mae pob un o wasanaethau iechyd y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i sicrhau targedau Sero-Net.

Mae systemau iechyd y byd yn gyfrifol am bron i 5% o allyriadau carbon byd-eang.

Ar ddiwrnod Gwyddoniaeth ac Arloesi COP26, mae 47 o wledydd ar draws y byd wedi cytuno i fabwysiadu targedau tebyg i leihau ar allyriadau carbon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn Sero-Net erbyn 2030, ac yn gobeithio medru cyflawni cyfres o fesurau i wireddu hynny.

Erbyn 2025, bydd y goleuadau ar draws safleoedd GIG Cymru yn rhai LED.

Erbyn 2030, bydd y Gwasanaeth Ambiwlans yn ceisio sicrhau bod pob ambiwlans newydd yn rhai electrig neu garbon isel a bydd ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu ar y safle.

'Rhan allweddol i gyfrannu'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae gan iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ran allweddol i gyfrannu i’n dyhead ar y cyd i gyrraedd Sero-Net erbyn 2030.

“Rydym yn ymwybodol pa mor ddiflino mae ein staff GIG a gofal iechyd wedi gweithio drwy gydol y pandemig a bod pwysau gaeafol pellach o’n blaenau.

“Ond, nid yw’r argyfwng hinsawdd wedi diflannu ac mae angen ymateb iddo'r un mor frys â mae’r pandemig wedi gorfodi ein sector.”

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr, Sajid Javid: “Rydw i wrth fy modd fod pob un o bedwar gwasanaeth iechyd y DU yn ymrwymo i fod yn Sero-Net ac mae’n newyddion anhygoel fod dwsinau o wledydd wedi ymuno â’r DU i leihau allyriadau carbon o’u systemau iechyd – gan leihau allbwn nwyon tŷ gwydr ar draws y byd yn sylweddol”.

Fe fydd uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn parhau yng Nglasgow tan ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.