Newyddion S4C

Lansio Côd Cefn Gwlad newydd

Lansio Côd Cefn Gwlad newydd

Mae Cod Cefn Gwlad newydd wedi ei lansio gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Natural England, 70 mlynedd ers cyhoeddi'r canllaw cyntaf yn 1951.

Daw'r cod newydd ar drothwy penwythnos y Pasg, sy'n argoeli i fod yn benwythnos prysur wedi i Lywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau i aros yn lleol a dechrau agor y diwydiant twristiaeth.

Yn ôl Jenn Jones, sy'n Arweinydd Tîm Canolfannau Ymwelwyr Canolbarth Cymru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, mae prysurdeb mawr wedi bod yng nghefn gwlad wrth iddynt weld mwy o ymwelwyr dros y cyfnod diweddar.

Dywedodd Ms Jones: "Ni 'di gweld pobl yn dod allan i gefn gwlad mwy achos bod y pandemig wedi bod. Ni wedi cael cynulleidfa newydd dwi'n meddwl, a chynulleidfa fwy, felly mae rhaid i ni edrych ar y ffordd allwn ni hysbysebu a gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r cod.

"Ni'n meddwl bo ni wedi gweld mwy o effaith o bobl allan yn yr awyr iach hefyd. Ni wedi gweld mwy o ymwelwyr y bydden i'n dweud, felly ni 'di gweld mwy o effaith efallai o bobol allan yn yr awyr agored. Mwy o ymwelwyr, mwy o faw cŵn, mwy o bobl yn defnyddio'r llwybrau ac yn y blaen."

Mae'r newidiadau i'r cod yn cynnwys cyngor ar greu amgylchedd groesawgar, er enghraifft drwy ddweud helo wrth gyd-ymwelwyr; rheolau cliriach i danlinellu pwysigrwydd clirio baw cŵn; aros ar lwybrau troed; a pheidio â bwydo da byw. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i geisio caniatâd ar gyfer gweithgareddau fel nofio gwyllt. 

Ychwanegodd Ms Jones: "Mae'r [cod] yn cynghori pobl i greu amgylchedd croesawgar, i weud helo wrth bawb wrth i chi basio. Ni gyd dwi'n meddwl wedi bod tu mewn, methu gweld pobl, ac mae'n neis cael bod allan a chyfarfod pobl ar wac neu beth bynnag."

Yn haf 2020, diweddarwyd y Cod Cefn Gwlad i ymateb i faterion a ddaeth i’w amlwg yn ystod y cyfnod clo, fel cynnydd mewn taflu sbwriel a chŵn yn aflonyddu ar ddefaid.

Nod yr adnewyddu, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, yw helpu pawb i fwynhau parciau a mannau agored mewn ffordd ddiogel, gan eu hannog i ofalu am amgylcheddau naturiol a bywoliaeth y rhai sy'n gweithio yno.

Dywedodd John Davies, Llywydd NFU Cymru: "Mae pwysigrwydd cefn gwlad Cymru wedi dod yn amlwg iawn yn ystod pandemig Covid-19, ac mae wedi bod yn noddfa i filiynau o ymwelwyr er mwyn gwella eu hiechyd corfforol a'u lles meddyliol.

"Mae'r Cod Cefn Gwlad hwn, sydd ar ei newydd wedd, yn arf pwysig i helpu i ddelio â'r pwysau ychwanegol a roddir ar gefn gwlad gan gerddwyr a phobl sy'n mwynhau ein hamgylchedd amaethyddol. Byddwn yn annog pobl i ddeall a pharchu'r Cod, yn enwedig o ran cadw at hawliau tramwy cyhoeddus, sicrhau fod cŵn yn cael eu cadw dan reolaeth a gwaredu baw cŵn mewn biniau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.