Rhybudd melyn am stormydd i Gymru gyfan ddydd Llun
Mae rhybudd melyn am stormydd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan brynhawn ddydd Llun.
Mae’r rhybudd mewn grym rhwng 12:00 a 22:00 ac yn dilyn cyfnod o dywydd braf.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd gallai'r tywydd stormus arwain at oedi i deithiau yn ogystal ag achosi llifogydd mewn mannau.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai ardaloedd golli cyflenwadau pŵer am gyfnod.
Mae disgwyl i’r cawodydd a stormydd symud yn gyflyn yn ystod y prynhawn.
Gallai hyd at 30mm o law syrthio o fewn awr, gyda hyd at 50mm yn cwympo o fewn dwy awr.
Fe allai mellt daro’n aml mewn rhai ardaloedd yn ystod y prynhawn, gyda phosibilrwydd o genllysg hefyd.
Fe fydd y glaw a stormydd yn ysgafnhau tuag at nos Lun.
Fe fydd y rhybudd melyn yn effeithio ar bob sir yng Nghymru.