Newyddion S4C

Treialu cynllun pleidleisio’n gynnar mewn etholiadau lleol

09/11/2021
Etholiad

Bydd pobl mewn pedwar ardal yng Nghymru yn cael pleidleisio’n gynnar yn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cynlluniau peilot yn cael eu treialu ar gyfer etholiadau mis Mai.

Y bwriad yw y bydd gan bleidleiswyr mwy o ryddid wrth bleidleisio gyda’r gobaith y bydd mwy o bobl yn bwrw pleidlais yn y blwch.

Bydd y cynlluniau yn weithredol yn ardaloedd cynghorau Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen.

Daw’r cynlluniau peilot wedi i bobl ifanc 16 oed gael pleidleisio yng Nghymru am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd eleni.

Bydd hawl gan bobl yn y pedair ardal i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ganolog, nid gorsaf eu ward lleol yn unig.

Bydd Parth Dysgu Blaenau Gwent yng Ngholeg Gwent, Glyn Ebwy yn cael ei ddefnyddio fel gorsaf bleidleisio’n gynnar – gyda holl drigolion y sir yn medru bwrw pleidlais yno yn yr wythnos hyd at yr etholiad.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd gorsaf bleidleisio newydd yn cael ei chreu mewn ysgol i alluogi pobl cymwys i bleidleisio cyn diwrnod yr Etholiad.

Yng Nghaerffili a Thorfaen, fe fydd swyddfeydd y cynghorau yn cael eu defnyddio er mwyn galluogi trigolion yno i bleidleisio yn ystod y penwythnos cyn prif ddiwrnod y bleidlais.

Yn ôl Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: “Mae mwy o bobl yn cymryd rhan weithgar yn ein democratiaeth yn dda i’n cymdeithas. 

“Bydd y cynlluniau treialu hyn yn ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl bleidleisio, gan ddod â’r bocs pleidleisio’n nes at fywydau bob dydd pobl.”

Dywed y llywodraeth y bydd canlyniadau’r cynlluniau peilot yn dylanwadu ar benderfyniadau’r dyfodol ac y gallai’r cynlluniau gael eu hymestyn i fwy o leoliadau yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.