
Trychineb Afon Cleddau: Teyrnged i 'fam gariadus' oedd yn 'caru bywyd'
Mae teulu menyw oedd yn un o bedwar o bobl fu farw mewn digwyddiad ar afon yn Sir Benfro wedi talu teyrnged iddi.
Bu farw Andrea Powell, 41, o ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad ar Afon Cleddau fore dydd Sadwrn, 30 Hydref.
Bu farw Paul O'Dwyer, Morgan Rogers a Nicola Wheatley hefyd yn y digwyddiad yn nhref Hwlffordd.
Cafodd pump o badlfyrddwyr eraill eu hachub yn dilyn gwaith ar y cyd rhwng sawl cangen o'r gwasanaethau brys.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Fel teulu rydym mewn trallod yn dilyn colli Andrea, fe fyddwn yn ei cholli'n fawr.
"Roedd yn fam, gwraig, merch a chwaer gariadus, oedd yn caru bywyd."
Fe ddiolchodd teulu Andrea Powell i bobl am eu cefnogaeth ar "adeg ofnadwy".
Mae Heddlu Dyfed-Powys eisoes wedi cadarnhau fod menyw o'r de wedi ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.
Mae'r fenyw wedi ei rhyddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.