Buddugoliaeth o'r diwedd i dîm rygbi merched Cymru i gloi wythnos hanesyddol
Roedd hi'n fuddugoliaeth gampus i dîm rygbi merched Cymru yn erbyn Japan ar ddiwedd wythnos hanesyddol.
Dyma oedd gêm gyntaf ochr Ioan Cunningham ers i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi y byddant yn rhoi cytundebau proffesiynol i 25 o chwaraewyr am y tro cyntaf mewn hanes.
Ac yn eu buddugoliaeth gyntaf ers 32 mis, fe lwyddodd Cymru i sicrhau mantais o 23-5 dros Japan ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.
Y capten Siwan Lillicrap rhoddodd y fantais gychwynnol i'r crysau cochion yn dilyn cais cynnar, gyda dau gais gan Jasmine Joyce, a chiciau cosb gan Elinor Snowsill yn rhoi Cymru bell ar y blaen.
Fe lwyddodd yr ymwelwyr i gael eu unig gais o'r noson yn y munudau olaf gyda'r cloc ar 77.
GWLAD, GWLAAAAD! 🏴
— S4C Chwaraeon 🏴 (@S4Cchwaraeon) November 7, 2021
Mae menywod Cymru yn ôl! 😍
Join us live! 👇
🏉 @WelshRugbyUnion v Japan
📺 @yclwbrygbi
🔴 English Commentary Available #WALvJPN #SistersInArms pic.twitter.com/doBM1bKYma