Enillydd rhaglen The Apprentice yn cau dau gaffi yn sgil prinder staff

Mae un o gyn enillwyr rhaglen The Apprentice wedi penderfynu cau dau o’i chaffis dros dro yn sgil prinder gweithwyr.
Caffis Ridiculously Rich Caerdydd a Chaernarfon sy’n cael eu heffeithio, yn ôl Alana Spencer.
Daw'r cyhoeddiad ychydig dros dri mis ers i'r caffi agor yng Nghaernarfon, gyda'r safle yng Nghaerdydd yn agor am y tro cyntaf fis Mai.
Wrth gyhoeddi ar ei thudalen Instagram, dywedodd y ddynes fusnes o Aberystwyth, nad oes ganddi ddigon o staff yn y ddau leoliad i barhau ar agor.
‘Cyfnod pryderus’
“Mae gennym dîm anhygoel ond yn syml iawn, does 'na ddim digon ohonyn nhw a dwi ddim eisiau rhoi pwysau diangen ar y rhai sydd gennym ni yn y tîm, felly doedd gen i ddim opsiwn arall ond cau’r ddau gaffi dros dro tra rydym yn ceisio sortio’r sefyllfa.”
Ychwanegodd: “Mae’n gyfnod pryderus iawn i’r diwydiant lletygarwch ar y funud a dwi jyst yn gobeithio na wneith hi barhau fel hyn am yn ry hir.”
Mae nifer o fusnesau o fewn y diwydiant lletygarwch wedi gweld hi’n anodd dod o hyd i weithwyr yn y misoedd diweddar, sydd yn ôl adroddiadau, yn gyfuniad o effaith y pandemig a Brexit.
Darllenwch y stori’n llawn yma.