
Diwedd oes i'r wasg argraffu yn 'Nhre'r Inc'

Diwedd oes i'r wasg argraffu yn 'Nhre'r Inc'
Mae hi'n ddiwedd cyfnod i'r wasg argraffu yng Nghaernarfon wrth i un o weisg olaf y dre ddod a'u cyfrifoldebau i ben.
Roedd y dref yn ganolbwynt i lawer o newyddiadurwyr a phapurau newydd yn y 19eg ganrif, gyda nifer yn ei galw'n 'Tre'r Inc' neu 'Prifddinas yr Inc'.
Ers rhai blynyddoedd fu Gwasg y Bwthyn yn gweld hi’n anodd argraffu rhai llyfrau gyda phrisiau’n cynyddu, ond y pandemig oedd "yr hoelen olaf yn yr arch".
Yn ôl y Golygydd Creadigol, Meinir Pierce Jones roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd pan darodd y pandemig.
'Digalon gweld traddodiad yn dod i ben'
“Mi aeth na lawer o gyhoeddiadau ar-lein a phobl yn argraffu eu hunain”, meddai.
“Roedd 'na lai o ddefnydd o bapur ac fe gawsom ein gorfodi i newid”.
Fel rhan o’r ail strwythuro a chau yr ochr argraffu fu’n rhaid “colli tair swydd a thair swydd ran-amser”.
“Mi gollwyd swyddi ac mi oedd hynny’n dristwch ac mae bob amser yn ddigalon gweld traddodiad fu’n mor ffyniannus yn dod i ben a roddodd gymaint o waith i bobl yn y dre ma a chysur i bobl oedd yn darllen”.
Yn ôl Ms Pierce Jones mae hi’n credu fod y pandemig wedi bod yn fwy o her i argraffwyr bach.
Ers cau'r argraffdy mae hi’n dweud fod gwerthiant llyfrau yn parhau i fod yn galonogol a bod “rhestr ardderchog o awduron a chynlluniau cyffrous”.

Mae’r sefyllfa ar hyn o bryd yn wahanol iawn i’r darlun yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ystod y cyfnod hwn fe ddaeth y dreth ar bapur newydd i ben ac fe lwyddodd y traddodiad anghydffurfiol i hybu llythrennedd gan arwain at fwy o Gymry yn darllen ac yn mynnu papurau newydd.
Dros y blynyddoedd hyn ddaeth papurau fel Y Goleuad i fodolaeth.

“Roedd papurau a chylchgronau mewn bri”, meddai Dr. W Gwyn Lewis, sydd wedi bod yn olrhain yr hanes.
“Yr Herald, Y Genhinen ac enwau mawr fel Morgan Humphreys a T Gwyn Jones".
“Ond bellach ma arferion pobl wedi newid ac mae hynny o bosib yn cyd-fynd a’r ffaith fod y wasg wedi cau ei hochr argraffu- mae gymaint o bethau ar lein”.
Yn ôl Dr Lewis mae diflaniad y traddodiad argraffu yn “dristwch ac yn ergyd i’r economi".
“Mae pobl wedi eu diswyddo oherwydd nad ydi’r angen yno fel ag yr oedd o."
Gyda mwy yn darllen deunydd ar-lein a nifer yn argraffu yn eu tai, mae na lai o angen am argraffwyr proffesiynol.
Dros nifer o ddegawdau mae tirlun y traddodiad wedi newid a phylu ond mae cyhoeddwyr yn mynnu, er bod y traddodiad o argraffu yn gostwng, mae’r awch gan bobl i ysgrifennu a darllen mor gryf a fuodd hi erioed.