Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

07/11/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Mae'n fore dydd Sul ac yn gyfle i daro golwg ar y prif straeon ar ein gwasanaeth.

‘Angen mwy o staff’ i roi brechlynnau atgyfnerthu Covid-19

Mae bwrdd iechyd yn y gogledd wedi dweud eu bod angen mwy o staff i ddosbarthu trydydd dos o frechlyn Covid-19. Hyd yma mae 492,433 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru ers dechrau’r cynllun yng nghanol mis Medi – gyda bron i 1.8m o’r boblogaeth yn gymwys. 

Cymru v De Affrica: Ymateb cynddeiriog i dresmaswr yn atal y chwarae

Mae fideo newydd yn dangos ymateb cynddeiriog cefnogwyr Cymru ar ôl i ddyn redeg ar y cae yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica nos Sadwrn.  Roedd y dyn wedi ymyrryd gyda'r chwarae ar eiliad dyngedfennol gan atal llwybr Liam Williams wrth iddo redeg am y llinell gais. 

Plentyn 14 oed ymhlith yr wyth fu farw mewn gŵyl yn Texas

Mae o leiaf wyth o bobl wedi marw a channoedd wedi eu hanafu mewn gwasgfa amheuol mewn gŵyl gerddoriaeth yn Houston, Texas. Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod ymchwiliad troseddol i’r marwolaethau yng ngŵyl Astroworld ddydd Gwener wedi dechrau.

Pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig ‘wir angen’ cyfleoedd i brofi celf

Mae cyfarwyddwr prosiect newydd yn y gogledd orllewin wedi dweud fod pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig “wir angen” cyfleoedd i brofi celf a chelfyddyd. Roedd Elgan Rhys yn siarad wrth lansio teithiau Fa’ma gan gwmni theatr Frân Wen.

Prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn benderfyniad 'annisgwyl'

Mae un o berchnogion newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud fod prynu'r clwb yn beth "annisgwyl" ond y peth "gorau iddo wneud". Roedd Ryan Reynolds yn siarad ar raglen Jonathan Ross ar ITV nos Sadwrn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.