Pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig ‘wir angen’ cyfleoedd i brofi celf
Mae cyfarwyddwr prosiect newydd yn y gogledd orllewin wedi dweud fod pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig “wir angen” cyfleoedd i brofi celf a chelfyddyd.
Roedd Elgan Rhys yn siarad wrth lansio teithiau Fa’ma gan gwmni theatr Frân Wen.
Yn ystod dau benwythnos o fis Tachwedd, bydd pobl ifanc ardaloedd Nefyn a Bala yn cynnal teithiau tywys o amgylch eu trefi fydd yn cynnwys celf, cerddoriaeth a ffilm.
Dywedodd Elgan fod hi’n “bwysicach nag erioed bod pobol ifanc yn cael cyfle i leisio eu hunain”.
“Mae pobol ifanc yn sgrechian am lot o bethau ar y funud,” meddai.
“Mae ‘na gymaint yn mynd ymlaen yn wleidyddol, ac mae’n eithaf amserol hefo COP26.
“Yn llythrennol, mae 'na dirlithriad wedi bod yn Nefyn yn un o leoliadau’r daith tywys – felly maen na gymaint iddyn nhw drafod sut i warchod eu hardal nhw.”
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd tref Nefyn yn cael ei addurno gyda graffiti sialc dros dro a bydd digwyddiad speed-dating rhwng pobl ifanc a’r gymuned yn digwydd ar ddiwedd y daith.
Mae’r dramodydd Mared Llywelyn, ffotograffydd Giles Bennett, y cyfansoddwr Sam Humphreys a’r artist Rhys Grail ymhlith y tîm artistig.
Mae darparu cyfleoedd i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig i brofi celf o’r fath yn “hynod bwysig” yn ôl Elgan.
“Dwi’n dod a Ben Llyn, ac oedd na gyfleoedd i brofi celf ond does 'na ddim gymaint ag sy na mewn dinas.”
Ychwanegodd y dramodydd sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd fod angen “shifftio’r cydbwysedd na o faint o brofiadau mae dinasyddion gwledig yn ei gael o’i gymharu â dinasyddion mewn dinas”.
“Yn Nefyn, mae’r anarchy amazing ma wedi dwâd ers i’r Frân Wen gyrraedd, sydd jyst yn ei hun yn dweud wrtha fi: mae’r bobol ifanc ma rili angen hwn.
“Lle yn Bala, mi wnaeth y bobl ifanc ma gyrraedd ni drwy gynhyrchiad arall, ac mi oedd ganddyn nhw glybiau eraill gyda’r nos – ond yn Nefyn, hwn oedd yr unig beth oedd yna a dwi yn pryderu ryw faint pan da ni’n gadael.”
Mae Aimee, 15 oed, yn ddisgybl yn Ysgol Botwnnog ac yn un o'r bobl ifanc fydd yn cynnal y teithiau tywys yn Nefyn.
"Dwi wedi mwynhau gymaint," meddai.
"Mae o wedi cael fi allan fwy a dwi di cael cyfle i wneud mwy o ffrindiau."
I Steffan, 14 oed o Abersoch, mae'r cyfle i gael cydweithio gyda'r cerddor Sam Humphreys wedi bod yn lot o help iddo wrth iddo ddechrau ei gwrs Cerddoriaeth TGAU.
"Mae di ysbrydoli fi lot - ac wedi helpu fi pan mae'n dod at waith cerdd; mae fel boost sydd di helpu fi ddeall y gwaith yn haws," meddai.
Bydd y teithiau tywys yn digwydd yn Nefyn y penwythnos hwn, cyn symud i dref Y Bala y penwythnos nesaf.
Llun: Theatr Iolo