Prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn benderfyniad 'annisgwyl'
Mae un o berchnogion newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud fod prynu'r clwb yn beth "annisgwyl" ond y peth "gorau iddo wneud".
Roedd Ryan Reynolds yn siarad ar raglen Jonathan Ross ar ITV nos Sadwrn.
Dywed Golwg360 fod y cyflwynydd wedi gofyn i'r seren Hollywood pam ei fod wedi prynu'r clwb, gan ychwanegu ei fod yn beth "rhyfedd i'w wneud".
“Mae’n annisgwyl iawn, ond yn un o’r pethau gorau dw i erioed wedi bod yn rhan ohono." meddai.
“Dw i’n caru tref Wrecsam yn llwyr, mae’r dref a’r gymuned yn… a’r holl hanes y tu ôl iddi…”
Daeth Ryan Reynolds a'i gyd berchennog, Rob McElhenney i Wrecsam yn ddiweddar i gwrdd aelodau a chefnogwyr am y tro cyntaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Gage Skidmore