Tân yn Llŷn: Wyres teulu Penyberth yn cwestiynu bygythiad yr ysgol fomio i’r Gymraeg

Penyberth

Mae wyres y teulu gafodd eu gorfodi i werthu fferm Penyberth i’r Awyrlu Brenhinol wedi cwestiynu i ba raddau y byddai sefydlu’r ysgol fomio yno wedi niweidio’r Gymraeg.

Bydd Dr Helen Williams-Ellis yn trafod ochr bersonol a theuluol hanes Penyberth mewn sgwrs o’r enw Penyberth cyn ac ar ôl y rhyfel i Gymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle yng Nghapel y Groes, Penygroes nos Iau.

Daw’r digwyddiad 90 mlynedd ar ôl i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams roi adeiladau’r ysgol fomio ar dir Penyberth ar dân mewn protest yn erbyn y cynllun.

Image
Saunders

Roedd Saunders Lewis wedi dadlau y byddai sefydlu’r ysgol fomio yn fygythiad i’r Gymraeg a’r gymuned leol.

Ond dywedodd Helen wrth Newyddion S4C ei bod hi'n cwestiynu'r ddadl honno - gan ddweud fod nifer o newydd-ddyfodiaid i'r ardal ar y pryd wedi ymdoddi i'r gymdeithas leol.

“Dwi ddim yn gwybod i ba raddau mae hwnna’n wir,” meddai. 

“Beth ddigwyddodd weithiau oedd bod yr hogiau a ddaeth i weithio i’r Awyrlu wedi priodi Cymry Cymraeg, ac wedi cael eu cymhathu i’r gymdeithas.”

Dywedodd fod enwau teuluol sydd yn yr ardal heddiw yn adlewyrchu’r cysylltiad â’r Awyrlu.

“Mae yna lot o enwau yn yr ardal [fel] White, Martin, Strain, McGill - mae’r enwau yma wedi dod i mewn i’r ardal oherwydd yr Awyrlu.”

‘Stori fwy cymhleth’

Mae Helen yn wyres i’r cwpl oedd yn byw ym Mhenyberth pan gafodd y teulu eu gorfodi gan Lywodraeth y dydd i werthu’r fferm o dros 300 erw i’r Awyrlu.

Roedd ei thaid wedi prynu'r fferm yng nghanol y 1930au, pan symudodd ef a’i wraig o Eifionydd i Lŷn.

Cafodd hen dŷ Penyberth, oedd yn dyddio o ganol yr 16eg ganrif, ei chwalu yn ystod gwanwyn 1936.

Image
Ty Penyberth
Tŷ fferm Penyberth cyn iddo gael ei ddymchwel 

Dywedodd Helen ei bod hi’n awyddus i adrodd hanes y safle cyn ac ar ôl y digwyddiadau sydd fel arfer yn cael eu cysylltu â'r fferm.

“Mae’r hanes yn fwy cymhleth na’r stori sy’n cael ei gwneud allan,” meddai.

Dywedodd hefyd fod ei nain wedi darganfod twll offeiriad - cuddfan i offeiriaid Catholig pan oedd dilynwyr y ffydd honno'n cael eu herlid - tu ôl i bapur wal yn yr hen dŷ.

Mae Helen, sydd â diddordeb yn y Tuduriaid a’r tensiwn rhwng Protestaniaeth a Chatholigiaeth, yn dweud y byddai "wrth fy modd yn gwybod" os oedd Saunders Lewis - a oedd yn Gatholig pybyr - yn ymwybodol o hynny.

Cario bom i dref Pwllheli

Ar ôl cyfnod yr ysgol fomio, cafodd taid Helen gyfle i brynu’r fferm yn ôl.

Yn ddiweddarach, aeth ei rhieni ati i ddatblygu maes carafanau ar ran o’r hen safle milwrol. Mae ei brawd William a’i deulu yn dal i ffermio Penyberth heddiw.

Ond roedd olion cyfnod yr Awyrlu yn dal i’w gweld ar y fferm am flynyddoedd wedi hynny - dywedodd Helen fod ei thad wedi dod o hyd i ddau fom heb ffrwydro wrth aredig y tir.

Ar un achlysur, fe gododd un o’r bomiau, ei roi yn ei gerbyd a’i yrru i orsaf yr heddlu ym Mhwllheli.

“Dyma fo’n cerdded i mewn efo’r bom,” meddai. “A dyma pawb yn sgrechian arno fo.”

Image
Swyddfa Milwyr, Penyberth
Swyddfa'r Milwyr ym Mhenyberth pan oedd Helen yn blentyn

Roedd llochesi rhag cyrchoedd awyr hefyd yn dal ar draws y fferm pan oedd Helen yn blentyn, ac roedd hi a’i brodyr a’i chwiorydd yn chwarae ynddyn nhw yn ystod gwyliau’r haf.

Dywedodd Helen mai un o brif amcanion ei sgwrs yw dangos bod hanes Penyberth yn ymestyn y tu hwnt i ddigwyddiadau 1936.

“Mae’n bwysig bod mwy na jyst un stori’n cael ei dweud am yr un lle,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.