Newyddion S4C

Plentyn 14 oed ymhlith yr wyth fu farw mewn gŵyl yn Texas

The Independent 07/11/2021
astroworld

Mae o leiaf wyth o bobl wedi marw a channoedd wedi eu hanafu mewn gwasgfa amheuol mewn gŵyl gerddoriaeth yn Houston, Texas.

Mae’r heddlu yn Houston wedi cadarnhau fod ymchwiliad troseddol i’r marwolaethau yng ngŵyl Astroworld ddydd Gwener wedi dechrau.

Mae adroddiadau hefyd yn honni fod rhai wedi cael eu chwistrellu gyda chyffuriau tra yn y dorf.

Yn ôl The Independent, cafodd rhai o’r mynychwyr eu hanafu pan ddechreuodd pobl wthio tuag at blaen y llwyfan lle’r oedd y rapiwr a threfnydd yr ŵyl, Travis Scott, yn perfformio ar y pryd.

Y gred yw bod oedrannau’r rhai fu farw yn amrywio o 14 i 27 oed.

Mewn neges ar ei gyfryngau cymdeithasol, mae Scott wedi addo bod o gymorth i deuluoedd y rhai sydd wedi eu heffeithio.

Darllenwch y stori’n llawn yma.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.