Pryderon am ddyfodol rhaglen gyfnewid ryngwladol Taith
Mae cyn-weinidog addysg wedi codi pryderon am ddyfodol rhaglen gyfnewid ryngwladol sydd wedi cynnig profiadau sydd wedi “newid bywyd” pobl ifanc.
Yn ôl Kirsty Williams, fe allai fod llai o gyfleoedd ar gael os na fydd rhaglen Taith yn sicrhau digon o arian gan Lywodraeth Cymru.
Mae cyllid y rhaglen wedi'i ymestyn tan 2028, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch ei dyfodol ar ôl hynny.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried y trefniadau ar gyfer y dyfodol.
Cafodd Taith ei sefydlu yn 2022 gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol tebyg i gynllun Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd, y gadawodd y Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit.
Mae Taith yn ariannu dysgwyr a staff addysg i dreulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau neu eu gwaith.
Ond fe fydd y Deyrnas Unedig yn ailymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027.
Bydd myfyrwyr o Gymru yn gallu astudio dramor mewn prifysgolion Ewropeaidd fel rhan o'u gradd heb dalu ffioedd dysgu ychwanegol i'r sefydliadau sy'n eu croesawu, a bydd cyfleoedd tebyg ar gael i fyfyrwyr Ewropeaidd ddod i'r Deyrnas Unedig.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 17 Tachwedd, ac fe all rhai meysydd wynebu toriadau.
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS, yn dweud ei fod wedi cael “sgyrsiau” ynghylch faint o arian y gellid ei ddarparu i barhau â rhaglen Taith.
Yn ôl Taith, mae 13,000 o unigolion o 493 o sefydliadau yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen ers ei sefydlu.
Mae hefyd yn dweud bod 62% o'r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn dod o gefndiroedd sy'n cael eu tangynrychioli.
“Ein pryder ni yw y bydd yna dro pedol ar gynllun hynod o lwyddiannus sydd wedi cael effaith fawr os na allwn ni ddiogelu arian ar gyfer y dyfodol,” meddai Williams, sy'n aelod annibynnol o fwrdd Taith.
Roedd cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn weinidog addysg yn Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi na fyddai'n sefyll yn etholiad y Senedd yn 2021.
Dywedodd fod y rhaglen wedi cynnig profiadau sydd wedi “newid bywydau” pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, ac mae'n pryderu na fydd y “cyfleoedd rheiny yno” heb ddigon o arian.
“Ry’n ni wedi creu rhywbeth arbennig iawn yng Nghymru ac mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Wrth ei gymharu â’r nifer sydd wedi cymryd rhan mewn cynlluniau blaenorol fel Erasums mae ganddom ni fwy o bobl wedi manteisio ar y cyfleoedd yma."
Profiadau disgyblion
Cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd gyfle i fynd i Malaysia drwy gynllun Taith y llynedd, ac maen nhw'n dweud iddyn nhw elwa o'r profiad.
Yn ôl Mia, 15, roedd yn “gyfle i ddeall diwydiannau gwahanol”.
Dywedodd Alexa, 15, fod y daith wedi “helpu i ddatblygu fy hyder” a'i bod bellach yn fwy parod i siarad â phobl eraill.
“Mae’n rhoi’r cyfle i bobol sydd heb deithio i wledydd gwahanol gael y siawns i wneud hynny,” meddai Amara, 15.
Yn ôl Mabli, 16, cyfathrebu oedd un o'r prif sgiliau a ddysgodd yn ystod y daith.
Dywedodd Gursharan, 15, fod y daith wedi dod â'r disgyblion yn nes at ei gilydd.
“Ni fel grŵp o ferched yn agosach at ein gilydd” oherwydd y daith, meddai.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod yna ystod o gyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru i fyw, astudio a gweithio yn Ewrop – gan gynnwys sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i fyfyrwyr o Gymru, fel rhan o’r DU yn ehangach, gael ailymuno â chynllun Erasmus+.
“Ein ffocws yw darparu rhaglen gyfredol Taith, sy’n rhedeg tan 2028, a sut mae’n gweithio ochr yn ochr ag Erasmus+. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud o ran y trefniadau i’r dyfodol.”