Bwrw ymlaen â chynlluniau i gau pedair ysgol arall yn Sir Gâr

Ysgolion Sir Gâr

Mae Pwyllgor Addysg Cyngor Sir Gâr wedi cefnogi ymgynghoriad ar ddyfodol pedair ysgol gynradd. 

Fe allai ysgolion Bancffosfelen, Pontiets a Carwe yng Nghwm Gwendraeth a Blaenau ger Rhydaman gau ddiwedd 2027, yn bennaf oherwydd prinder disgyblion. 

Ond roedd gwrthwynebiad y tu allan i Neuadd y Sir ddydd Mawrth wrth i ddisgyblion a rhieni brotestio cyn i'r cynghorwyr ymgynnull. 

Dywedodd un o rieni Ysgol Bancffosfelen Rhian Kinnaird mai'r ysgol yw "calon y cymuned."

"Es i ir ysgol a'th yn Dad i'r ysgol. Mae'r ysgol fod dathlu 150 o flynydde blwyddyn nesa', a mae'n meddwl  lot i ni fel cymunued," meddai. 

Ychwanegodd Martha Davies sy'n llywodraethwraig yn Ysgol Bancffosfelen:"Fi 'di bod 'na, ma'n fam a'n fam-gu, mae'r plant yn mynd 'na, a gobeitho bydd yr ifanca' hefyd. Jyst cadw'r cymuned a'r ysgol i fynd."   

Yn ôl adroddiad i'r Pwyllgor Craffu, roedd dros 3,500 o lefydd gwag yn ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr 2026, gyda dros 1,000 yn llai o ddisgyblion cynradd o gymharu â 2021.

Mae disgwyl i ddiffyg ariannol cyfunol ysgolion y sir gyrraedd £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol os na fydd y sefyllfa'n newid.

Dyledion

Yn y Pwyllgor Craffu ddydd Mawrth, dywedodd aelod y Cabinet dros addysg, y Cynghorydd Glynog Davies fod dyled ysgolion Sir Gâr tua £9 miliwn ar hyn o bryd.

Nododd bod yn "rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn gynaliadwy yn ariannol".

Ar ddiwedd y drafodaeth, fe bleidleisiodd y Pwyllgor Addysg o blaid ymgynghori ar ddyfodol y pedair ysgol, a bydd penderfyniad ar eu dyfodol yn cael ei ystyried gan gabinet y cyngor

Ond yn achos Ysgol Bancffosfelen, fe fydd newidiadau i'r ddogfen fydd yn mynd o flaen y  Cabinet, wedi cwynion am gamgymeriadau ynddi, a chyfle i'r Pwyllgor gymryd golwg bellach arni.

Bydd dyfodol dwy o ysgolion eraill Sir Gâr o dan y chwyddwydr ddydd Mercher, wrth i'r Cyngor llawn benderfynu'n derfynol a ddylai Ysgol Meidrim yng ngorllewin y sir, ac Ysgol y Fro, yn Llangyndeyrn gau.

O dan y cynigion, byddai'r ddwy ysgol yn cau ar ddiwedd Rhagfyr eleni.

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.