Peidio â bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer parc cenedlaethol yn y gogledd-ddwyrain am y tro

Dafydd Trystan Davies

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer parc cenedlaethol yn y gogledd-ddwyrain am y tro.

“Ni fydd Parc Cenedlaethol newydd yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd,” meddai’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies.

Ond dywedodd yn y Senedd ei fod eisiau bod yn “glir” nad oedd hwn yn “benderfyniad terfynol”.

“Rydw i am roi cyfle byr i bawb sydd â diddordeb i ymateb ar sail y penderfyniad dros dro ydw i wedi ei gymryd,” meddai.

Fe fyddai Parc Cenedlaethol Glyndŵr' wedi ymestyn o Brestatyn ar yr arfordir, ar draws Sir Ddinbych, trwy Sir y Fflint, Wrecsam ac i lawr i ogledd Powys.

Roedd creu y parc yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur yn 2021, ond roedd pob un o’r pum cyngor o fewn ei ffiniau wedi mynegi amheuon am y cynllun.

Fe fyddai wedi golygu bod rhai penderfyniadau cynllunio yn cael eu trosglwyddo i awdurdod y parc.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ‘Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr’ ym mis Ionawr, gan amcangyfrif costau sefydlu o tua £11.6 miliwn.

Roedd CNC wedi cyflwyno’r holl wybodaeth i’r Llywodraeth flaenorol iddi ystyried y dystiolaeth.

Fe wnaeth y llywodraeth flaenorol gyhoeddi ym mis Mawrth y byddai’n cynnal ymchwiliad cyhoeddus ar y pwnc.

Mae ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy eisoes wedi ei dynodi’n ardal o ‘harddwch naturiol eithriadol’.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.