
Dadorchuddio cofeb o naturiaethwr enwog ym Mrynbuga

Dadorchuddio cofeb o naturiaethwr enwog ym Mrynbuga
Ar ôl blynyddoedd o godi arian mae cofeb wedi'i ddadorchuddio ym Mrynbuga i'r naturiaethwr ac un o gyd-awduron y ddamcaniaeth ar esblygiad.
Ganwyd Alfred Russel Wallace ym 1823 yn Kensington Cottage, rhwng Brynbuga a Llanbadog Fawr ac mae dwy o'i chwiorydd, a fu farw'n fabandod, wedi'u claddu yn Eglwys Llanbadog Fawr.
Roedd yn naturiaethwr brwd wnaeth deithio i dde America a'r Dwyrain Pell, gan lunio ei ddamcaniaeth esblygiad tra oedd yno.
Cafodd ei ddamcaniaeth ei gyhoeddi yn gyfamserol â damcaniaeth Charles Darwin, aeth yn ei flaen i gyhoeddi On the Origin of Species.

"Oeddem ni'n lwcus bod y cerflunydd Felicity Crawley yn byw yn y dref ac roedd hi'n hapus i'w wneud," eglura Meirion Howells o Gymdeithas Ddinesig Brynbuga.
"Saith mlynedd ymlaen a llawer o baratoi a chodi arian mae Wallace o'r diwedd ym Mrynbuga i bawb i edmygu ac i roi'r gydnabyddiaeth mae'n ei haeddu.
"Oedd e'n ddyn rhyfeddol iawn.
"Roedd e'n 'explorer', 'geographer', 'anthropologist', 'biologist', 'illustrator', 'astrobiologist', ond yn fwy na peth arall roedd yn 'naturalist' rhyfeddol a oedd wedi cyd-ddarganfod y ddamcaniaeth ar esblygiad' gyda Charles Darwin.
"Ma' rhai yn dweud heb Wallace falle byddai Darwin ddim wedi cyhoeddi'r llyfr 'The Origin of Species', achos bod e'n meddwl bod y llyfr yn rhy ddadleuol.”
Yr actor a'r comedïwr Bill Bailey, sy'n un o noddwyr y gronfa, gafodd y fraint o ddadorchuddio’r cerflun efydd.