Myfyriwr ar gampws prifysgol yn Llambed wedi marw gyda'r diciâu
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod myfyriwr wedi marw tra'n dioddef o'r diciâu ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
O ganlyniad fe fydd swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio i nodi cysylltiadau agos â'r unigolyn fu farw a chynnig sgrinio TB iddynt.
Dywedodd Sion Lingard, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Tîm Rheoli Digwyddiadau amlasiantaethol (IMT) wedi cael ei drefnu i ymchwilio i’r achos hwn ac unrhyw fesurau rheoli sydd eu hangen.
“Mae'r risg i'r cyhoedd yn parhau i fod yn isel iawn, gan ei bod yn anodd trosglwyddo TB. Mae angen cyswllt agos ac estynedig gydag unigolyn heintus, fel byw yn yr un cartref, er mwyn i berson gael ei heintio.
“Rydym yn y broses o nodi cysylltiadau agos yr unigolyn fu farw i gynnig sgrinio TB iddynt gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a darparu cyngor i staff a myfyrwyr y brifysgol.
“Gellir gwella o TB gyda chwrs llawn o driniaeth.”
Dywed iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai unrhyw un sy'n dioddef o gyfuniad o beswch hir anesboniadwy gan gynnwys pesychu gwaed, colli pwysau heb esboniad neu chwysu yn y nos ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnig eu cydymdeimlad â theulu a ffrindiau'r unigolyn fu farw, gan ychwanegu nad oes cysylltiad rhwng yr achos hwn a'r achosion parhaus o TB yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin.