Newyddion S4C

Cyhoeddi tîm merched Cymru i herio Japan

05/11/2021
Cymru yn erbyn Iwerddon

Mae Ioan Cunnigham wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn herio Japan yng ngêm gyntaf merched Cymru yng nghyfres yr Hydref.

Bydd y merched yn wynebu Japan ddydd Sul ar Barc yr Arfau, Caerdydd.

Dyma'r gêm gyntaf ar ôl y cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd rhai o'r merched sy’n chwarae i dîm rygbi Cymru yn derbyn cytundeb proffesiynol am y tro cyntaf erioed.

Daeth y penderfyniad yn dilyn galwadau hir dymor ar yr Undeb i wella eu cefnogaeth o’r tîm benywaidd, sydd heb ennill gêm ers dwy flynedd. 

Dywedodd capten y tîm, Siwan Lillicrap wrth Newyddion S4C yn gynharach yr wythnos hon bod y teimladau ymhlith y garfan yn "bositif iawn" wrth iddyn nhw edrych ymlaen at y gêm ddydd Sul.

Y tîm: Jasmine Joyce; Lisa Neumann; Hannah Jones; Kerin Lake; Courtney Keight; Elinor Snowsill; Keira Bevan; Caryl Thomas; Kat Evans; Donna Rose; Natalia John; Gwen Crabb; Georgia Evans; Bethan Lewis; Siwan Lillicrap (C).

Eilyddion: Carys Phillips; Cara Hope; Cerys Hale; Alex Callender; Alisha Butchers; Ffion Lewis; Robyn Wilkins; Megan Webb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.