Cymru i herio pencampwyr y byd yng Nghyfres yr Hydref
Fe fydd yn rhaid i Gymru ymateb yn sydyn i'r grasfa yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf, wrth i'r crysau cochion baratoi i herio pencampwyr y byd De Affrica yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.
Bydd rhaid i Wayne Pivac ymdopi heb sawl chwaraewr profiadol ar gyfer ail gêm Cymru yng Nghyfres yr Hydref , wedi i Alun Wyn Jones, Ross Moriarty a Taulupe Faletau dynnu'n ôl o'r garfan gydag anafiadau.
Ond fe fydd clybiau Lloegr yn rhyddhau eu chwaraewyr ar gyfer dyletswyddau rhyngwladol - gan alluogi'r Llewod profiadol Dan Biggar a Louis Rees-Zammit i gael eu cynnwys yn y tîm cychwynnol yn y gêm yn Stadiwm y Principality.
Mae Pivac wedi gwneud sawl newid dewr i'r tîm a gollodd 16-54 yn erbyn y Crysau Duon.
Mae'r prop Rhys Carre a'r cefnwr Johnny McNicholl yn dechrau yn lle Wyn Jones a Liam Williams, oedd yn rhan o garfan y Llewod oedd wedi herio De Affrica yn y gyfres dros yr haf.
Fe fydd Ellis Jenkins hefyd yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers 2018 - pan gafodd ei anafu'n ddifrifol ar ôl perfformiad gwych yn erbyn yr union un tîm y mae am ei wynebu ddydd Sadwrn.
Mae hefyd disgwyl i Bradley Roberts a WillGriff John chwarae eu gemau cyntaf i Gymru oddi ar y fainc wrth i Pivac droi at wynebau newydd i geisio sicrhau'r bedwaredd buddugoliaeth yn olynol i Gymru yn erbyn De Affrica yng ngemau rhyngwladol yr Hydref.
EICH TÎM CHI! 🏴
— S4C Chwaraeon 🏴 (@S4Cchwaraeon) November 4, 2021
Tîm Wayne Pivac wrth iddynt groesawu Pencampwyr y Byd i Gaerdydd! 👊
Ellis Jenkins is back! 🙌
📺 Uchafbwyntiau ar @s4c#WALRSA pic.twitter.com/lE3ssTI2I1
Yn debyg i Gymru, mae gan enillwyr Cwpan y Byd 2019 hefyd sawl absenoldeb sylweddol megis yr asgellwr Cheslin Kolbe, y mewnwr Faf de Klerk a chyn-chwaraewr y flwyddyn Pieter-Steph Du-Toit.
Serch hyn mae sawl seren yng ngharfan y Springboks fydd yn achos pryder i Gymru, gan gynnwys aelodau o'r tîm drechodd y Llewod dros yr haf megis Eben Etzebeth, Handre Pollard a'r capten Siya Kolisi.
Cymru v De Affrica, Stadiwm y Principality - y gic gyntaf am 17:30. Gallwch wylio'r uchafbwyntiau ar S4C am 20:30.