Image

Mae miloedd o bobl ifanc yn gorymdeithio dros newid hinsawdd yn Glasgow ddydd Gwener.
Daw'r orymdaith yn ystod uwchgynhadledd COP26 sydd wedi ei threfnu gan y Cenhedloedd Unedig.
Fe fydd yr ymgyrchwyr ifanc Greta Thunberg a Vanessa Nakate ymhlith y sawl fydd yn annerch y dorf.
Mae Golwg360 yn adrodd fod y gwledydd wedi bod dan bwysau i dorri nwyon tŷ gwydr yn ystod wythnos gyntaf y gynhadledd.
Maen nhw hefyd yn adrodd am lun o Ganolfan y Mileniwm sydd wedi ei ryddhau gan y Loteri Genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o effeithiau posib newid hinsawdd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Fforwm Economaidd y Byd
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.