Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n fore Gwener a dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar 5 Tachwedd.
Boris Johnson yn 'drist iawn' o weld Owen Paterson yn ymddiswyddo - Sky News
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud ei fod yn "drist iawn" i weld yr Aelod Seneddol Owen Paterson yn ymddiswyddo ar ôl "gyrfa lewyrchus".
Bydd Mr Paterson yn camu o'i rôl fel AS Gogledd Swydd Amwythig er mwyn gadael "byd creulon gwleidyddiaeth" yn dilyn dadl danllyd dros argymhelliad i'w wahardd o Dŷ'r Cyffredin.
Ail-gydio yn y gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol 2022
Mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion wedi ail-gydio yn y gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol 2022.
Ar ôl gohirio’r brifwyl ddwywaith oherwydd rheolau Covid-19 bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Nhregaron y flwyddyn nesaf rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.
Cyngor milfeddyg i helpu anifeiliaid anwes ar noson Guto Ffowc
Ydych chi'n poeni am sut y bydd eich anifail anwes yn ymdopi gyda sŵn y tân gwyllt nos Wener?
Ar drothwy noson Guto Ffowc, mae milfeddyg wedi rhannu ei chyngor ar sut i helpu anifeiliaid anwes rhag bod yn bryderus.
Dechrau ar y broses o graffu newidiadau posib i addysg ôl-16
Mae Bil cyntaf y Chweched Senedd yn cychwyn ar ei daith drwy'r broses graffu seneddol ddydd Gwener.
Mae'r Bil yn cyflwyno cynigion i newid y ffordd y mae addysg ôl-16 yn cael ei rheoli.
ABBA yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ers 40 mlynedd - The Sun
Mae grŵp pop ABBA wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers 40 o flynyddoedd.
Cafodd Voyage ei ryddhau ddydd Gwener - albwm cyntaf y grŵp o Sweden ers iddyn nhw ryddhau The Visitors yn 1981.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.