ABBA yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ers 40 mlynedd
05/11/2021
Mae grŵp pop ABBA wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers 40 o flynyddoedd.
Cafodd Voyage ei ryddhau ddydd Gwener - albwm cyntaf y grŵp o Sweden ers iddyn nhw ryddhau The Visitors yn 1981, yn ôl The Sun.
Fe gyhoedd y grŵp ym mis Medi y bydden nhw'n dod yn ôl at ei gilydd ar gyfer albwm newydd a thaith gerddoriaeth lle bydd animeiddiadau ohonyn nhw'n ifanc yn ymddangos ar y llwyfan.
Mae tair cân o'r albwm eisoes wedi eu rhyddhau ond ddydd Gwener mae saith cân arall wedi eu rhyddhau i gwblhau'r albwm.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Baillie Walsh