Hyd at 25,000 litr o gerosin o bosib wedi gollwng ger Afon Taf

Lluniau: Sarah Llewellyn
Cerosin yn yr afon taf

Fe allai hyd at 25,000 litr o gerosin fod wedi gollwng mewn digwyddiad llygredd sy'n effeithio ar Afon Taf, yn ôl amcangyfrif cynnar gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r corff yn dweud nad yw'n glir eto faint yn union o'r tanwydd sydd wedi gollwng, wrth i waith barhau i atal y llygredd yn llwyr.

Daeth adroddiadau am y llygredd o sawl ardal ddydd Gwener, gan gynnwys Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais.

Mewn ymateb i gwestiynau gan Newyddion S4C, cadarnhaodd CNC iddo dderbyn yr adroddiad cyntaf am y llygredd am 15.26 ddydd Gwener, gyda swyddogion yn cyrraedd y safle tua 18.00.

Erbyn 19.30, roedd swyddogion wedi dod o hyd i ffynhonnell y llygredd ac yn ceisio canfod sut roedd y cerosin yn mynd i mewn i'r system ddraenio.

Meddai llefarydd ar ran CNC: "Yn hwyr neithiwr, cawson ni gymorth gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a ddefnyddiodd offer arbenigol i leihau faint o gerosin oedd yn mynd i mewn i'r afon.

"Mae ein swyddogion ar y safle eto heddiw, lle mae camau wedi'u cymryd i leihau'n sylweddol faint o lygredd sy'n mynd i mewn i'r llednant, tra bod gwaith ymchwilio'n parhau i geisio atal y llygredd yn llwyr."

Mae CNC yn parhau i ymchwilio i sut mae'r tanwydd yn cyrraedd y system ddraenio, sydd o dan y ddaear yn bennaf.

Image
Olew Afon Taf

Cadarnhaodd y corff ei fod yn gweithio gyda pherchnogion y safle i fynd i'r afael â'r llygredd.

Pan ofynnodd Newyddion S4C am enw'r cwmni sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, dywedodd CNC na fyddai'n cadarnhau'r enw ar hyn o bryd nes bod ei ymchwiliad wedi'i gwblhau.

Pryderon trigolyn

Mae un o drigolion yr ardal wedi codi pryderon am ymateb CNC i'r digwyddiad.

Mewn datganiad a anfonodd Gareth Llywelyn at Newyddion S4C, dywedodd ei fod wedi riportio tanwydd yn arnofio ar wyneb yr afon tua 16.30 ddydd Gwener, ac iddo rannu gwybodaeth am fan posibl lle'r oedd y tanwydd yn mynd i mewn i'r afon.

Ond honnodd nad oedd wedi gweld unrhyw gamau amlwg i atal y llygredd erbyn 07.30 fore Sadwrn.

"Rwy'n gwerthfawrogi bod dod o hyd i ffynhonnell digwyddiad llygredd a'i ynysu yn cymryd amser. Ond mae hynny'n codi cwestiynau difrifol iawn," meddai.

"Sut wnaeth gollyngiad ar y raddfa hon barhau am oriau? Pam y caniatawyd i gymaint o danwydd ddianc i'r afon, yn ôl pob golwg? A ble roedd y mesurau diogelwch?"

Mae hefyd wedi mynegi pryder am yr effaith bosibl ar fywyd gwyllt yr afon.

Meddai: "Am y tro cyntaf yn y 14 mlynedd rwyf wedi byw yma, rwyf wedi gweld teulu o ddyfrgwn ar y rhan hon o Afon Taf eleni. Rhiant a dau genau.

"Does gen i ddim syniad a ydyn nhw wedi dod i gysylltiad â'r llygredd hwn, nac a fyddan nhw'n goroesi ei ganlyniadau. Dydw i ddim hyd yn oed yn gwybod a fydda i byth yn eu gweld nhw eto."

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod a oedd unrhyw anifeiliaid wedi cael eu hanafu neu eu lladd, ond ei fod yn bryderus iawn am effeithiau hirdymor y llygredd ar yr afon.

Ymateb CNC

Mewn ymateb i'r pryderon am ba mor gyflym yr oedd wedi ymateb, pwysleisiodd CNC mai eu blaenoriaeth oedd mynd i'r afael â'r llygredd yn ei ffynhonnell.

Dywedodd llefarydd: "Ein blaenoriaeth mewn digwyddiadau fel hyn yw dod o hyd i ffynhonnell y llygredd a'i atal, gan mai dyna fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran cyfyngu ar y niwed i'r amgylchedd."

O ran asesu'r niwed posibl, ychwanegodd: "Rydyn ni hefyd yn cymryd samplau er mwyn deall effaith amgylcheddol y gollyngiad ar y llednant ac Afon Taf, ac fel tystiolaeth."

Lluniau: Olew yn ymddangos ar wyneb Afon Taf. (Sara Llywelyn)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.