Y Pab allan o’r ysbyty ar ôl llawdriniaeth am ganser
Mae’r Pab wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty bedwar diwrnod ar ôl cael llawdriniaeth i dynnu rhan o’i ysgyfaint yn dilyn diagnosis o ganser.
Fe gafodd y Pab Leo XIV, sy’n 71 oed, y llawdriniaeth ddydd Mawrth yn Ysbyty Gemelli yn Rhufain.
Fe gerddodd allan o’r ysbyty i’w gar ddydd Sadwrn heb gymorth, gan aros i siarad ag aelodau’r cyhoedd.
Fe fydd yn arwain gweddi draddodiadol yr Angelus o Sgŵar San Pedr ddydd Sul, yn ôl llefarydd ar ran y Fatican.
Yn ystod seremoni ddydd Sul diwethaf, fe ddatgelodd Leo XIV fod meddygon wedi canfod lwmp bach yn ei ysgyfaint.
Fe wnaeth profion yn dilyn y llawdriniaeth gadarnhau bod ganddo ganser yr ysgyfaint.
Dywedodd meddygon fod profion gwaed a phelydr-X o’i frest yn dangos bod ei gyflwr yn gwella’n ôl y disgwyl yn dilyn y llawdriniaeth.
Nid yw canlyniadau profion pellach i wirio a oedd y canser wedi lledaenu ymhellach wedi’u cyhoeddi.
