Dechrau ar y broses o graffu newidiadau posib i addysg ôl-16
Mae Bil cyntaf y Chweched Senedd yn cychwyn ar ei daith drwy'r broses graffu seneddol ddydd Gwener.
Mae'r Bil yn cyflwyno cynigion i newid y ffordd y mae addysg ôl-16 yn cael ei rheoli.
Bydd ymgynghoriad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer darparwyr addysg a rhanddeiliaid yn dweud eu barn am y Bil newydd.
Mae yna hefyd gyfle i bobl sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y sector addysg ôl-16 i rannu eu barn drwy wefan y Senedd.
Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Rydyn ni'n awyddus i weithwyr addysg broffesiynol a rhanddeiliaid, o'r chweched dosbarth, colegau a phrifysgolion, i ddarparwyr hyfforddiant, hyfforddiant yn y gymuned a phrentisiaethau, i ddweud wrth y Pwyllgor beth yw eu barn am y cynigion wrth i ni gychwyn ar gyfnod cyntaf y broses graffu.”
Os bydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai holl elfennau addysg ôl-16 gan gynnwys colegau, prifysgolion, addysg oedolion, prentisiaethau a’r chweched dosbarth yn dod o dan un corff.
‘Llais myfyrwyr yn ystyriaeth eilradd’
Wrth ymateb i gyflwyniad y Bil dywedodd Becky Ricketts, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) Cymru: “Er bod UCM Cymru yn cefnogi nodau eang y Bil, rydym yn pryderu bod llais myfyrwyr wedi dod yn ystyriaeth eilradd yn y ddeddfwriaeth, er gwaethaf sicrwydd dro ar ôl tro gan Lywodraeth Cymru y byddai’n rhan ganolog o ddiwygio’r sector.
“Mae’r Bil yn cyflwyno cyfle gwych i ymgorffori partneriaeth gymdeithasol ledled addysg drydyddol yng Nghymru, gan sicrhau bod parch rhwng Addysg Uwch ac Addysg Bellach o ran llais myfyrwyr. Mae pob dysgwr mewn addysg ôl-16, gan gynnwys myfyrwyr coleg, myfyrwyr prifysgol a phrentisiaid, yn haeddu'r un lefel o fynediad at eiriolaeth a chefnogaeth yn eu haddysg.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ni, i sicrhau bod llais myfyrwyr yn wirioneddol yng nghanol system addysg ôl-16 Cymru.”
Bydd canfyddiadau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad a fydd yn llywio’r bleidlais ar egwyddorion cyffredinol y Bil gan y Senedd gyfan ym mis Mawrth 2022.