Newyddion S4C

Cyngor milfeddyg i helpu anifeiliaid anwes ar noson Guto Ffowc

05/11/2021
Ci ofnus

Ydych chi'n poeni am sut y bydd eich anifail anwes yn ymdopi gyda sŵn y tân gwyllt nos Wener?

Ar drothwy noson Guto Ffowc, mae milfeddyg wedi rhannu ei chyngor ar sut i helpu anifeiliaid anwes rhag bod yn bryderus.

I lawer mae'r noson yn gyfle i fwynhau tân gwyllt, ond i anifeiliaid anwes mae'r sŵn yn gallu achosi ofn.

Image
Meleri Tweed
Dywedodd Meleri Tweed bod perchnogion fel arfer yn rhy hwyr wrth gysylltu â'r milfeddyg adeg noson Guto Fowc.

Yn ôl milfeddyg o Abertawe, Dr Meleri Tweed, mae cynnydd mawr yn y nifer o bobl sy'n cysylltu â'r feddygfa am gymorth yn ystod adeg noson Guto Ffowc.

Ond mae Dr Tweed yn rhybuddio ei bod yn aml yn rhy hwyr i gynnig cymorth i'r anifeiliaid.

Mae hi'n awgrymu y dylid defnyddio dulliau naturiol i helpu anifeiliaid os yw'r perchennog yn ei gadael yn rhy hwyr.

Rhai o gynghorion Dr Meleri Tweed:

  • Mynd â'ch anifail anwes am dro yn ystod y dydd, yn hytrach na gyda'r nos
  • Bwydo'r anifail yn gynt nag arfer fel eu bod yn teimlo ychydig yn gysglyd
  • Creu ardal dawel lle gall yr anifail fynd i guddio
  • Chwarae cerddoriaeth glasurol yn y cefndir
  • Cau'r llenni
Image
Tan gwyllt
Er eu bod yn rhan hwyl o'r dathliadau, mae tân gwyllt yn medru dychryn anifeiliaid anwes.

Rhybuddiodd Dr. Tweed bod hi'n bwysig bod yn wyliadwrus o gathod ac anifeiliaid bychain sydd ddim fel arfer yn ymddangos yn ofnus.

"Mae anifeiliaid fel cathod, cwningod, moch cwta yn cuddio ofn lot yn well na chŵn," meddai. 

"Os gallwch chi mae werth cadw cathod mewn dros nos amser yma’r flwyddyn.

"Hyd yn oed os nag ydyn nhw fel arfer yn ofnus mae rhywbeth yn gallu digwydd, tân wyllt yn mynd off yn sydyn, cath yn rhedeg ar draws y ffordd ac mae damweiniau yn gallu digwydd fel 'na.

"Anifeiliaid bach, cwningod, moch cwta, rhowch blancedi trwm neu hen garped dros y cwb, i roi fwy o lonydd iddyn nhw."

'Cymryd camau'n gynt'

Er y cymorth yma, pwysleisiodd Dr Tweed fod rhaid i berchnogion gymryd camau yn gynt yn y dyfodol er mwyn helpu atal pryderon eu hanifeiliaid yn well. 

"Cyn gynted â chi’n gallu dechrau'r pethau hyn, y mwyaf effeithiol ma' nhw a chymryd lot o gamau at ei gilydd yn rhoi fwy o help i’r anifeiliaid.

"Yn anffodus mae'r rhan fwyaf yn gadael hi bach yn hir cyn dod mewn i ofyn am help achos mae lot o bethau da ni’n gallu neud yn cymryd amser i weithio.

"Er bod cyffuriau fel Xanax yn un opsiwn gall cael ei drafod gyda'r milfeddyg, weithiau mae'n well i droi at gamau mwy naturiol," ychwanegodd.

"Byddwn yn annog unrhyw un i fynd i weld y milfeddyg dechrau mis Hydref hyd yn oed i drafod y camau maen nhw gallu cymryd o flaen law."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.