Boris Johnson yn 'drist iawn' o weld Owen Paterson yn ymddiswyddo
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud ei fod yn "drist iawn" i weld yr Aelod Seneddol Owen Paterson yn ymddiswyddo ar ôl "gyrfa lewyrchus".
Bydd Mr Paterson yn camu o'i rôl fel AS Gogledd Swydd Amwythig er mwyn gadael "byd creulon gwleidyddiaeth" yn dilyn dadl danllyd dros argymhelliad i'w wahardd o Dŷ'r Cyffredin.
Roedd y cyn-aelod o gabinet y llywodraeth wedi torri rheolau lobïo, yn ôl ymchwiliad seneddol annibynnol.
Ond mewn pleidlais ddydd Mercher, enillodd y llywodraeth bleidlais i anwybyddu'r cynnig i wahardd Mr Paterson am 30 diwrnod.
Yn dilyn ymateb chwyrn, cyhoeddodd Stryd Downing y byddai pleidlais arall yn cael ei chynnal, medd Sky News.
Bydd isetholiad yn cael ei chynnal yn etholaeth Gogledd Swydd Amwythig dros y misoedd nesaf, gyda rhai adroddiadau y bydd y gwrthbleidiau yn cydweithio i geisio dadwneud mwyafrif o tua 23,000.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Tŷ'r Cyffredin