Newyddion S4C

Ail-gydio yn y gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol 2022

05/11/2021
Eisteddfod Gudd 2

Mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion wedi ail-gydio yn y gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol 2022.

Ar ôl gohirio’r brifwyl ddwywaith oherwydd rheolau Covid-19 bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Nhregaron y flwyddyn nesaf rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.

Dywedodd Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: “Rwy’n siŵr y bydd pawb ar draws y sir yn dathlu ein bod ni am gael ein Heisteddfod, ac am groesawu Cymru gyfan draw atom ni’n ystod yr haf nesaf. 

“Mae ‘na her o’n blaenau ni dros y misoedd nesaf wrth i ni fynd ati i ysbrydoli a sbarduno trigolion y sir i ymuno â ni yn ein paratoadau.”

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Roedd hi mor braf ymuno gyda’r tîm yng Ngheredigion i drafod ail-gydio yn y gwaith. 

“Ry’n ni hefyd wedi derbyn dros 250 o ymholiadau ychwanegol am le ar y maes carafanau, ac mae pawb wedi’u gosod ar restr aros ar hyn o bryd, ac ry’n ni’n gobeithio gallu cysylltu â phawb dros yr wythnosau nesaf i ddweud a oes lle ar eu cyfer. 

“Mae’n amlwg fod pawb, fel ninnau, wedi gweld eisiau’r Eisteddfod dros y cyfnod anodd yma, ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw iawn at gael dod i Geredigion o’r diwedd. 

“Hir yw pob aros yn ôl y sôn – a mawr fydd y croeso yma yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf hefyd.”

Llun: Sara Gibson

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.