
Galw am achub un o brif ffyrdd Sir Benfro rhag effeithiau newid hinsawdd

Galw am achub un o brif ffyrdd Sir Benfro rhag effeithiau newid hinsawdd
Wrth i'r uwchgynhadledd COP26 barhau yn Glasgow, mae galwadau gan gymuned yn Sir Benfro i achub un o'i phrif ffyrdd rhag effeithiau newid hinsawdd.
Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae pentref Niwgwl yn Sir Benfro wedi cael ei tharo gan gyfres o storydd pwerus.
Daeth hi'n amlwg yn 2014 na fyddai'n bosib dibynnu ar amddiffynfa naturiol o gerrig oedd yn gwarchod y ffordd fawr ger y môr.

Yn dilyn ymchwil gan arbenigwyr, mae Cyngor Sir Penfro wedi datgan y bydd rhan o ffordd yr A487 yn Niwgwl yn gorfod cael ei symud yn y dyfodol, wrth i lefel y mor godi ac wrth i stormydd erydu'r clawdd cerrig sydd wedi amddiffyn y pentref rhag y mor.
Y darogan yw y bydd y ffordd bresennol wedi diflannu erbyn 2036.
'wedi ynysu'
Mae'r Parchedig William Owen yn byw ym mhentref Caerfarchell ym Mhenrhyn Dewi, ac mae'n dweud fod pobl yr ardal yn dibynnu ar y ffordd yn Niwgwl i gyrraedd tref Hwlffordd:
"Mae'n bwysig am ei bod hi'n cysylltu ni gyda Hwlffordd, a tua'r Gogledd.
"Mae plant yn mynd i'r ysgol yn Hwlffordd. Mae'r gwasanaeth iechyd yn Hwlffordd a draw i Glangwili," ychwanegodd.
"Gallwch chi ddim gadael Tyddewi wedi ei ynysu. I fi caneri yn y pwll glo yw Niwgwl.
"Mae yna blant yn y cylchoedd meithrin ar hyn o bryd sydd yn mynd i dyfu fyny yn ystod cyfnod mwyaf heriol dynoliaeth, gyda newid hinsawdd."
Mae'r Cyngor eisioes wedi dewis llwybr newydd i'r heol, yn dilyn proses ymgynghori, ond mae angen cymorth Llywodraeth Cymru i dalu am y gwaith o godi ffordd newydd ymhellach i fyny'r cwm.
Yn ôl y Cyngor, yr amcangyfrif diweddaraf yw y bydd ffordd newydd yn costio o leiaf £19m.
Fe fydd y ffordd newydd, 1.5 milltir o hyd, yn cysylltu Penycwm gyda chylchfan newydd ger pentre'r Garn. Yn wreiddiol, y bwriad oedd agor y ffordd newydd erbyn 2025.
Er i Lywodraeth Cymru gyfrannu dros £400,000 tuag at waith ymchwil i baratoi ar gyfer ffordd newydd, does yna ddim ymrwymiad eto i dalu am y gost o adeiladu ffordd newydd.
Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y byddai prosiectau i adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu hatal am y tro tan y bydd adolygiad yn cael ei gwblhau dros yr haf.

Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Penfro, Cris Tomos, yn dweud bod yr awdurdod yn awyddus i glywed gan y llywodraeth y bydd yna sicrwydd i ariannu'r ffordd:
"Os bydde'r tymheredd yn codi yn gynt, a'r lefel o garbon deuocsid yn cynyddu yn gynt, yr effaith sydyn byddai gweld yr heol yma yn diflannu yn gynt, ac mae yna berygl i hynny ddigwydd.
"D'wi'n gofyn i Lywodraeth Cymru i weithredu yn gyflym i sicrhau bod y cyllid mewn lle."
Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhoi'r sicrwydd hynny ar hyn o bryd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth : "Rydym fel llywodraeth wedi cyfrannu arian ar gyfer y cynllun addasu arfodir Niwgwl dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae arian yn cael ei ddarparu'n flynyddol ac mi wnewn ni ystyried unrhyw geisiadau pellach. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau manwl am y cynllun i'r awdurdod lleol," ychwanegodd.
"Mae disgwyl adroddiad llawn gan y panel haf nesaf. Fe fyddwn ni hefyd yn ariannu cynlluniau i amddiffyn 45,000 o dai ychwanegol rhag llifogydd yn ystod tymor presennol y llywodraeth."
'yn gynt nag ydym yn disgwyl'
Yn ol y Daearyddwr, Dr Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth, mae yna gryn ansicrwydd ynglyn a pryd y gwelwn ni effeithiau newid hinsawdd yn dechrau taro glannau Cymru:
"Y pryder sydd gen i efallai yw bod y newidiadau, y stormydd mawr a'r erydiad, hwyrach yn mynd i ddigwydd yn gynt nac ydym ni yn disgwyl, felly mi fuaswn i yn dweud bod angen mynd i'r afael a'r heriau yma yn fuan iawn."

Mae Cadeirydd Cyngor Cymuned Solfach, y Cynghorydd Josh Phillips, yn dweud bod hi'n hollol allweddol bod yna arian yn dod o Gaerdydd i dalu am y cynllun:
"Mae'n hollol hanfodol. Mae angen gweithredu cyn gynted a bo modd. Dyw hon ddim yn broblem i Sir Benfro yn unig," meddai.
"Mae hon yn broblem i Gymru gyfan ac mae angen canfod atebion.
Mae'r cynllun yma wedi cael ei glustnodi ers rhyw 5 mlynedd a does yna ddim adeiladu wedi digwydd," ychwanegodd.
"Does yna ddim datblygiad wedi bod. Mae'n rhaid sicrhau bod yr arian yn cael ei ddarparu i dalu am hyn."